Mwy o Newyddion
Awyrennau di-beilot pedair gerbron llys barn
Ddydd Iau, 17 Medi, yn Llys Ynadon Caernarfon, am ddeg o'r gloch, bydd pedair merch, Sian ap Gwynfor, Anna Jane, Angharad Tomos ac Awel Irene, yn ymddangos ar gyhuddiad o beri difrod troseddol.
Flwyddyn yn ôl, (13 Mehefin, 2014) peintiodd y bedair y slogan 'Dim Adar Angau' ar lanfa maes awyr Llanbedr, Meirionnydd.
Roedd yn rhan o ymgyrch Cymdeithas y Cymod yn erbyn arbrofi awyrennau di-beilot militaraidd (drones) yn Llanbedr ar y cyd efo Parc Aberporth.
Mae'r achos llys hwn yn dilyn yr un yn Nolgellau ar 6 Awst pryd y plediodd y merched yn ddi-euog.
Nid dyma'r tro cyntaf i rai o'r merched hyn wynebu llys, mae Sian ap Gwynfor wedi gweithredu yn Greenham a Byncar Caerfyrddin yn ystod yr Wythdegau, ac Awel Irene wedi gweithredu yn Molesworth
Gyda awyrennau di-beilot yn y newyddion yr wythnos hon, mae rhai yn pryderu fod y Prif Weinidog David Cameron yn fwy na bodlon i ddefnyddio'r dull hwn i gael gwared o wrthwynebwyr, hyd yn oed os ydynt yn ddinasyddion Prydeinig. Mae'r cwestiwn a weithredodd yn gyfreithiol yn destun trafod. Lladd Reyaad Khan oedd y tro cyntaf i ddinesydd Prydeinig gael ei ladd yn fwriadol gan awyren di-beilot.
Meddai Angharad Tomos: “Mae lladd bwriadol penodedig fel hyn yn achos pryder dychrynllyd.
"Mae'n tanlinellu mor ffiaidd yw yr awyrennau hyn.
"Ni ddylent gael eu profi yng Nghymru, ac ni ddylent gael ei cynhyrchu na'i gwerthu.
"Gyda'r ffoaduriaid yn y newyddion, mae pawb yn ymwybodol beth yw cost aruthrol rhyfel.
"Y cwbl wnaiff lladd efo drones yw gwneud y byd yn lle mwy ansicr, esgor ar ragor o ddial, ac yn y pen draw, ffoaduriaid sy'n talu'r pris.”