Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Medi 2015

Defnydd o fagiau plastig wedi gostwng 71%

Yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae’r defnydd o fagiau siopa untro wedi gostwng 71% yng Nghymru ac mae rhwng £17 miliwn a £22 miliwn wedi’i gasglu ar gyfer achosion da.
 
Mae’r Adolygiad Ôl-weithredu Codi Tâl ar Fagiau Siopa Untro yng Nghymru  yn edrych ar effaith y tâl ar ddefnyddwyr, busnesau a’r amgylchedd ers ei gyflwyno. Mae hefyd yn edrych ar effaith y cytundeb gwirfoddol sy’n bodoli â masnachwyr er mwyn iddynt roi’r cyfraniadau net at achosion da. 
 
Dywedodd Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol Cymru fod y drefn o godi tâl am fagiau siopa untro wedi’i gyflwyno yn 2011 ac ers hynny bod ymddygiad y defnyddwyr wedi newid yn sylweddol ac mae hefyd wedi cael effaith bwysig ar yr amgylchedd. Yn ogystal, mae swm sylweddol o arian wedi’i godi ar gyfer achosion da.
 
Mae’r prif ganfyddiadau eraill sy’n deillio o’r adroddiad yn cynnwys:

* 74% o ddefnyddwyr yn dweud eu bod yn cefnogi’r tâl.

* O blith y masnachwyr sy’n codi tâl am eu bagiau, dywedodd y rhan fwyaf fod codi tâl am fagiau siopa untro wedi cael effaith bositif neu niwtral ar eu busnes (87%).

* Mae mwy yn defnyddio “bagiau am oes” a bagiau eraill sy’n cael eu hailddefnyddio a golyga hynny fod yr holl fagiau a ddefnyddir wedi gostwng 57%.

Caiff yr adroddiad ar godi tâl am fagiau siopa untro yng Nghymru ei gyhoeddi fis cyn i Loegr ddechrau codi tâl am fagiau siopa untro a hynny ar 5 Hydref 2015. Fodd bynnag, yn Lloegr, dim ond masnachwyr mawr fydd yn gorfod codi tâl. Ni fydd angen i fusnesau bach na chanolig godi tâl.

Dywedodd Carl Sargeant: “Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i godi tâl am Fagiau Siopa Untro a hynny er mwyn lleihau’r defnydd ohonynt a’r effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â nhw. Roeddwn eisiau i bobl Cymru ddod i arfer ag ailddefnyddio eu bagiau wrth siopa.

“A hithau bron yn bedair blynedd ers dechrau codi tâl yng Nghymru mae’n ymddangos bod arferion defnyddwyr yn newid ac mae hynny cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae hefyd yn codi swm sylweddol o arian ar gyfer achosion da.”

Rhannu |