Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Medi 2015

Ni ddylid torri ar drael plismona cefn gwlad medd AS

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts AS, yn galw ar y Llywodraeth i wneud eu gorau glas i warchod cyllideb plismona cefn gwlad, o flaen adolygiad gwariant a allai arwain at 22,000 o heddweision yn colli eu swyddi gan adael y cyhoedd yn cael eu gwarchod gan y nifer lleiaf o heddweision ers y 1970au.  

Yn siarad ar ôl treulio noson gyda Heddlu Gogledd Cymru o amgylch Pen Llŷn, dywedodd Mrs Saville Roberts bod ganddi bryderon dirfawr am ddyfodol plismona lleol os yw’r toriad arfaethedig o 25% yn cael ei weithredu, gan rybuddio y gall plismona cefn gwlad ddiflannu yn gyfan gwbl. Byddai toriad o 25% yn golygu y byddai Heddlu Gogledd Cymru yn colli 371 o heddweision, o’u cyfanswm presenol o 1,487. 

Meddai: “Mae heddweision a swyddogion cefnogi cymuned (PCSOs) yn fy etholaeth i yn gwneud gwaith arbennig o dan amodau anodd, sy’n debygol o waethygu.

"Mae eu hymwybyddiaeth drylwyr o’r ardal a’u cysylltiadau da gyda pobl leol yn dangos gwir werth heddweision cefn gwlad. Byddai torri eu cyllideb yn ergyd i’r gwasanaeth. 

"Mae heddweision lleol eisoes dan bwysau gwaith dirfawr, sy’n cael ei gymlethu gan heriau daearyddol sy’n unigryw i gymunedau cefn gwlad.

"Rydym eisoes yn gweld gwasanaethau cyfiawnder yn cael eu his-raddio yn Nwyfor Meirionnydd, gyda Llys Ynadon Dolgellau yn wynebu cau. Byddai torri yn ôl ar blismona yn gwaethygu’r sefyllfa.

"Rwyf hefyd yn bryderus ynglŷn â’r posibilrwydd o ail-ddiffinio troseddau er mwyn arbed arian a gwneud i ffigyrau troseddu edrych yn well, yn enwedig yr hyn a ystyrir fel troseddau lefel isel, megis bwrgleriaeth amhreswyl a dwyn o siopau.

"Mae gwneud toriadau wrth chwarae o gwmpas â ffigyrau troseddu yn gam peryg, ac un all adael cymunedau gwledig heb ddigon o wasanaeth plismona. Mae hyn eisoes yn cael ei gysidro gan rhai heddluoedd yn Lloegr.

"Os yw’r toriadau arfaethedig yma yn cael eu gweithredu, mae yna bosibilrwydd y bydd heddweision yn cael eu tynnu i ffwrdd o’u gwaith am nifer o oriau er mwyn hebrwng carcharorion o Dde Meirionnydd i’r ddalfa agosaf yng Nghaernarfon.

"Rhaid bod hyn yn cael effaith ar allu’r heddlu i ymateb i ddigwyddiadau. Mae angen gwarchod rhag lleihau hyn er mwyn cynnal lefel dderbyniol o bresenoldeb a gwasanaeth.”

Llun: Liz Saville Roberts AS gyda Sergeant Gavin Hughes tu allan i Orsaf Heddlu Pwllheli

Rhannu |