Mwy o Newyddion
Leanne Wood: “Gall Plaid Cymru wireddu potensial Cymru”
Wrth lansio ymgynghoriad polisi ei phlaid o flaen etholiad Cynulliad fis Mai'r flwyddyn nesaf, mae disgwyl y bydd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud fod Llafur wedi llywyddu dros “16 mlynedd sydd wedi eu gwastraffu” a bod yr amser wedi dod i roi terfyn ar eu harferiad o reoli dirywiad yn yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd Ms Wood yn dweud fod y ddegawd a hanner ddiwethaf yn cynrychioli’r cyfle mwya’ gafodd ei golli yn hanes diweddar Cymru. Ond mae sefyllfa Cymru o ran yr economi, addysg ac iechyd yn dangos fod yr optimistiaeth a ddaeth yn sgil datganoli ddim yn cael ei wireddu.
Mae disgwyl i Ms Wood ddweud: “Mae hi bron yn ddwy flynedd ar bymtheg i’r diwrnod ers i Gymru bleidleisio’n betrusgar dros fesur cymedrol o hunanlywodraeth.
“Yn sgil hyn daeth cyfnod o optimistiaeth i Gymru.
“Fe ddaeth oes o hunanhyder.
“Roeddem i fod i weld dechrau newydd ar gyfer ein gwlad. Nid yn unig fel symbol o ymrymuso, ond fel ffordd o newid ein hamgylchiadau.
“Ond mae’n deg i ddweud bod y 16 mlynedd ddiwethaf wedi cael eu gwastraffu.
“Maen nhw wedi gwastraffu cyfle euraid yn hanes modern Cymru.”
Bydd Ms Wood yn dweud bod newid llywodraeth ym mis Mai yn hanfodol.
Bydd hi’n ychwanegu: “Dyw disgwyliadau pobl heb gael eu cyrraedd ond mi all Plaid Cymru newid hynny.
“Gall llywodraeth Blaid Cymru adfer hyder yn ein cenedl.
“Mis Mai’r flwyddyn nesaf yw ail gyfle Cymru.
“I bobl, i gymunedau, i wasanaethau cyhoeddus ac i’n heconomi.
“Yr arweinyddiaeth wleidyddol hyd yma sydd wedi methu pobl Cymru. Arweinyddiaeth wleidyddol sydd wedi troi datganoli o fod yn llusern ddisglair o obaith i fod yn fatsien wleb fel y gwelwn heddiw.
“Fe ddywedon nhw y byddai yna ddŵr coch clir, ond yn lle hynny cawsom gors farwaidd. Yn ddi-glem, yn ddi-uchelgais, yn gwbl ddisyniad.
“Rwy’n gofyn i bobl o bob cwr o’r wlad i ofyn y cwestiwn syml hwn iddyn nhw eu hunain:
“Ai dyma’r gorau all Cymru fod?”
Mae disgwyl i Ms Wood ganolbwyntio ar record Llafur ym meysydd iechyd, addysg a’r economi a bydd hi’n ychwanegu:
“Mae cyflog cyfartalog Cymru 15% is na’r Deyrnas Gyfunol yn ei chyfanrwydd.
“Ydi pobl yng Nghymru yn haeddu ennill dim ond 85c am bob punt sy’n cael ei hennill mewn ardaloedd eraill o’r DG?
“Mae Cymru heddiw â 25,000 o gleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar y gwasanaeth iechyd o’i gymharu â phedair blynedd yn ôl.
“Yw cleifion yn haeddu cael eu trin fel dinasyddion eilradd?
“Mae plant Cymru heddiw yn cael eu methu gyda’n gwlad ar waelodion tablau llythrennedd a rhifedd.
“Onid ydy’n plant ni’n haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd?
“Os ydych yn rhannu barn Plaid Cymru fod hyn ddim digon da, yna byddwch yn rhan o’r newid mae Cymru ei angen.”