Mwy o Newyddion
Rhaid peidio defnyddio'r argyfwng ffoaduriaid fel esgus i fomio Syria
Mae Leanne Wood AC Arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog ar yr argyfwng ffoaduriaid gan rybuddio na ddylid ei ddefnyddio fel esgus i lansio ymgyrch fomio yn Syria.
Dywedodd Leanne Wood y byddai gweithredu milwrol heb strategaeth glir yn gyfystyr ag ‘arllwys tanwydd ar y tân, ac y dylai ymateb y DG i’r argyfwng ganolbwyntio ar ymdrechion dyngarol.
Wrth ymateb i gadarnhad y Prif Weinidog ar nifer y ffoaduriaid fydd yn cael eu derbyn i’r DG, mynegodd Leanne Wood siom gyda’r ffigwr o 20,000 o bobl erbyn 2020.
Meddai: “Rwy’n falch fod y Prif Weinidog, o’r diwedd, yn dechrau derbyn ei gyfrifoldeb i sicrhau fod y DG yn chwarae rhan mewn ymateb i’r argyfwng dyngarol hwn.
“Mae’r ffaith y bydd y DG yn derbyn 20,000 o ffoaduriaid i’w groesawu ond ni ddylai’r ffigwr hwn fod yn derfyn a dylai’r polisi gael ei weithredu cyn gynted a phosib. Mae’r sefyllfa yn ddifrifol y funud hon – ni all miloedd o bobl aros nes 2020 fel yr awgryma’r Prif Weinidog.
“Mae perygl nawr y bydd yr argyfwng ffoaduriaid yn cael ei ddefnyddio fel esgus i lansio ymgyrch fomio yn Syria.
“Byddai gweithredu milwrol, yn enwedig heb strategaeth ac amserlen glir, yr un fath ag arllwys tanwydd ar y tân. Mae UDA wedi bod yn lansio cyrchoedd awyr ers misoedd bellach heb fawr o effaith. Oes ganddynt unrhyw syniad faint o ddinasyddion diniwed sydd wedi eu lladd gan yr ymosodiadau hyn?
“Bydd mwy o ymosodiadau fel hyn yn arwain at frwydro ffyrnicach, yn dinistrio’r ychydig isadeiledd sydd ar ôl yn Syria, ac yn debygol o arwain at fwy o ffoaduriaid.
“Mae Plaid Cymru hefyd wedi ei arswydo gan y newyddion fod llywodraeth y DG wedi awdurdodi llofruddio dinesydd Prydeinig ar dir Syria, er gwaetha’r bleidlais seneddol yn gwrthwynebu gweithredu milwrol yn y rhanbarth.
“Rhaid i lywodraeth y DG ddefnyddio ei holl ddylanwad i ddarbwyllo holl wledydd y Dwyrain Canol sy’n parhau i ganiatau’r llif o arfau, tanwydd, ac arian i ddwylo IS.”