Mwy o Newyddion
Mynd i'r afael â chwmniau ffonau symudol dros wasanaeth annibynadwy
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams yn annog pobl etholaeth Arfon i leisio eu barn ynglŷn ag ansawdd signal ffonau symudol ar draws y rhanbarth, cyn iddo gyfarfod â rheolwyr y cwmniau sy’n darparu’r gwasanaeth yn Llundain o fewn y mis.
Mae Mr Williams wedi cychwyn arolwg ar-lein yn gofyn am adborth gan ei etholwyr ynglŷn ag ansawdd rhwydwaith ffonau symudol ac argaeledd gwasanaeth 3G a 4G. Mae Hywel Williams AS yn ymgyrchu i wella signal ffôn ar draws Arfon yn dilyn nifer o gwynion am ddibynadwyedd y gwasanaeth.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae’n amlwg bod signal ffôn mewn rhannau o etholaeth Arfon yn wan iawn ac yn annibynadwy, yn enwedig rhannau gwledig.
"Mae busnesau ac unigolion ar draws yr etholaeth eisiau gwell gwasanaeth a chytundeb mwy ffafriol gan eu darparwr gwasanaeth.
"Os yw pobl yn ceisio rhedeg busnes mewn ardal wledig yna mae argaeledd 3G neu 4G yn hynod bwysig. Os yw pobl yn talu am wasanaeth yna mae’n ofynnol iddynt ei dderbyn.
"Rwyf felly yn annog pobl leol i ymateb i’r arolwg yma fel fy mod yn gallu rhoi darlun cywir i’r cwmniau ffonau symudol o ansawdd y gwasanaeth.
"Mi fedrwch gwblhau’r arolwg mewn ychydig funudau. Rwy’n gobeithio y bydd adborth pobl leol yn helpu’r achos i gael gwell gwasanaeth.
"Rwy’n gobeithio cyflwyno cynrychiolaeth gryf i’r cwmniau yma gan eu hannog i ymrwymo i uwchraddio’r gwasanaeth yn Arfon.”
I gwblhau’r arolwg ewch i www.surveymonkey.com/r/MSMPWC3 ar gyfer y fersiwn Gymraeg ac www.surveymonkey.com/r/TG882YS ar gyfer y fersiwn Saesneg.