Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Medi 2015

Leanne Wood yn condemnio “blaenoriaethau anfoesol” y Canghellor ar arfau niwclear

MAE Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru, wedi condemnio “blaenoriaethau anfoesol” y Canghellor George Osborne wrth iddo ymweld â Faslane yn yr Alban ddydd Llun ble mae system Trident y DG wedi ei lleoli.

Dywedodd Leanne Wood ei bod hi’n anfaddeuol ymrwymo £100bn i genhedlaeth newydd o arfau niwclear tra fod degau o filoedd o bobl ledled y DG yn cael eu taro gan sancsiynau lles ac yn cael trafferth i ymdopi ar gyflogau isel.

Galwodd hi’n benodol ar y Blaid Lafur i ddangos undod ar y mater hwn ac ymuno â Phlaid Cymru i ymgyrchu dros roi diwedd i oes arfau torfol dinistriol.

Dywedodd Leanne Wood: “Wrth i’r Canghellor ymweld â Faslane heddiw i hyrwyddo gwastraffu miliynau’n fwy ar y diwydiant arfau niwclear, mae’n gwneud hynny gyda thoriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus yn gefndir.

“Dyma dystiolaeth pellach o flaenoriaethau anfoesol George Osborne wrth iddo ddangos ei fod yn credu fod mwy o reswm dros wario ar un o greiriau’r Rhyfel Oer nag ar ein ysgolion a’n ysbytai.

“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu’n ddiflino dros gael gwared ar Trident yn gyfangwbl.

“Mae hi’n warth honni y dylid gwario biliynau ar hen system arfau torfol dinistriol pan fo cymaint yn dioddef yn sgil sancsiynau lles a’n crafu byw ar gyflogau isel.

“Gyda phleidlais seneddol ar adnewyddu Trident ar y gweill y flwyddyn nesaf, rwy’n gobeithio y bydd y Blaid Lafur yn medru rhoi’r cecru mewnol i un ochr a siarad gydag un llais yn erbyn ymdrechion i ymrwymo’r DG i genhedlaeth newydd o arfau niwclear.

“Mater egwyddorol, nid pleidiol, yw hwn. Gyda’r Prif Weinidog a’i blaid yn dal eu gafael ar fwyafrif pitw, mae posibilrwydd go iawn y gellir trechu’r llywodraeth ar Trident yn 2016.

“Mae Plaid Cymru yn gobeithio y bydd arweinydd newydd Llafur yn medru uno ei blaid neu ei phlaid ar y penderfyniad gwariant hollbwysig hwn a rhoi buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus yn llawer uwch ar yr agenda na gwastraffu biliynau ar arfau peryglus a dinistriol.”

Rhannu |