Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Medi 2015

Terfyn cyflymder 20 mya i ysgolion Cymru

MAE Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth wedi cyhoeddi rhaglen tair blynedd gwerth £4.5 miliwn i wella diogelwch dros 40 o ysgolion sydd wedi’u lleoli ar gefnffyrdd Cymru, yn bennaf trwy ddefnyddio terfyn cyflymder rhan-amser 20 mya.
 
Yn dilyn Llywodraeth Cymru’n adolygu diogelwch llwybrau cerdded a beicio i’r ysgol sydd ar hyd rhwydwaith cefnffyrdd Cymru, nodwyd bod hi’n bosibl gwella diogelwch ffyrdd 56 o’r ysgolion.  Yn gynharach eleni, gosodwyd terfynau cyflymder rhan-amser 20 mya wrth wyth ysgol a bellach, mae nhw yn y broses o wneud y terfynau cyflymder yn barhaol. 
 
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai terfynau cyflymder 20 mya yn cael eu gosod wrth 41 o ysgolion eraill; bydd gwaith peirianyddol i wella diogelwch yn cael ei wneud wrth dair ohonyn nhw ac er na nodwyd bod angen gwneud unrhyw waith wrth bedair ohonyn nhw, byddan nhw’n cael eu cynnwys mewn trafodaethau gyda’r awdurdod lleol ynghylch yr hyn y gellir ei wneud i wella diogelwch.  Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau dros y tair blynedd nesaf.
 
Mae’r terfynau cyflymder rhan-amser yn cael eu harddangos ar arwyddion electronig sydd, pan mae plant yn cael eu cludo neu eu codi o’r ysgol, yn newid i 20 mya.  Y tu allan i’r cyfnodau hyn, mae’r terfyn cyflymder arferol yn cael ei arddangos.
 
Dywedodd Mrs Hart:  “Mae tystiolaeth yn dangos bod terfynau cyflymder 20 mya yn gallu gwella ymddygiad gyrwyr a gostwng cyflymder o gwmpas ysgolion.

"Wedi dweud hynny, oherwydd natur y rhwydwaith cefnffyrdd a’r teithiau maith y mae pobl yn gorfod eu teithio weithiau, mae’n rhaid i ni gydbwyso anghenion y gyrrwr a dyma lle mae terfynau cyflymder 20 mya yn gallu bod yn ddefnyddiol.
 
"Yn ogystal â gwella diogelwch ac achub bywydau, rwy’n gobeithio y bydd mwy o blant a phobl ifanc yn gallu cerdded neu fynd ar eu beic i’r ysgol.

"Lle mae’n briodol, rydym wedi nodi lleoliadau lle mae angen gwneud gwaith peirianneg er mwyn gwneud y llwybr i’r ysgol yn fwy diogel.  Rwyf wedi ymrwymo i wella diogelwch ein rhwydwaith cefnffyrdd a’r cymunedau sydd gerllaw iddyn nhw.”
 

Rhannu |