Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Medi 2015

Galw ar y MoD i roi'r gorau i hedfan awyrennau isel dros Feirionnydd

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn yn galw arnynt i gymryd camau brys i leihau’r nifer o awyrennau milwrol sy’n hedfan yn isel dros ardaloedd gwledig Cymru, yng nghanol pryder y gall eu presenoldeb parhaus arwain at ddamwain.

Daw ymyrraeth Mrs Saville Roberts yn dilyn adlach gan bobl lleol sy’n gorfod cystadlu’n ddyddiol â’r awyrennau milwrol, gyda rhai yn pryderu am eu hiechyd, diogelwch a’u gallu i ganolbwyntio wrth yrru.    

Dinas Mawddwy yw un o’r ardaloedd sydd wedi ei heffeithio waethaf. Mae’r awyrennau yn hedfan trwy Ddyffryn Dyfi ac i lawr trwy Gwm Hafod Oer i gyfeiriad Talyllyn. Adnabyddir hyn yn nhermau milwrol fel ‘the Machynlleth Loop’. Mae’r un broblem yn bodoli yn ardal Rhydymain ger Dolgellau.  

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae angen i’r Weinyddiaeth Amddiffyn edrych ar y mater yma ar fyrder; mae’n difetha bywydau nifer o fy etholwyr ac yn eu hatal rhag mynd o gwmpas eu bywydau bod dydd.

"Dyma’r cyfnod gwaethaf o aflonyddwch ers peth amser, gyda awyrennau yn hedfan yn isel ac yn byddaru trigolion lleol wrth ymgymryd â’u symudiadau milwrol. Rwyf wedi clywed sôn am yrrwyr yn gallu gweld peilotiaid yn yr awyrennau – dyna pa mor isel mae’r awyrennau yn hedfan.

"Er gwaethaf galwadau i edrych eto ar eu polisi hedfan a hyfforddi, ychydig iawn o weithredu sydd wedi bod gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i liniaru effaith awyrennau yn hedfan yn isel ar draws Etholaeth Dwyfor Meirionnydd.  Ar ôl siarad â thrigolion lleol, mae’n ymddangos fod y sefyllfa wedi gwaethygu, gyda chynydd yn pha mor aml mae’r awyrennau yn hedfan. 

"Tra bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael gwared â swyddi lleol o RAF Fairbourne, maent yn ddigon parod i roi halen yn y briw wrth drin pobl Dwyfor Meirionnydd â’r fath ddirmyg.  

"Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymddwyn yn anedifeiriol ar y mater yma. Rwy’n eu hannog i gysidro effaith yr awyrennau yma ar gymunedau lleol a’r effaith hir-dymor ar iechyd a llês pobl sy’n byw islaw’r llwybr hedfan.” 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS y dylai’r Llywodraeth ddilyn esiampl yr Almaen, a rhoddodd derfyn ar awyrennau’n hedfan yn isel yn dilyn ymchwil gan academyddion ar oblygiadau iechyd.   

Rhannu |