Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Medi 2015

Sacsoffonydd ifanc yn barod am y Proms

Enillydd Gwobr Jazz Cerddor Ifanc y BBC 2014, y sacsoffonydd Alexander Bone yw’r enw diweddaraf i gael ei ddatgelu ar gyfer Proms yn y Parc y BBC ddydd Sadwrn, Medi 12 ym Mharc Singleton.

Ers ennill ei wobr, mae Alexander wedi gweithio â mawrion y bydd cerddorol, gan gynnwys y ffigwr chwedlonol o fyd y disgo Nile Rodgers a’r cynhyrchwyr drwm a bas Rudimental. Mae wedi perfformio’n fyw â Newton Faulkner ac roedd yn rhan o Wobrau Cerddoriaeth y BBC cyntaf, a ddarlledwyd ar BBC One ac ar BBC Radio One.

Bydd Alexander yn ymuno â’r gantores opera o Gymru Rebecca Evans a seren y West End a Broadway John Owen-Jones am noson o wledd o ganu a cherddoriaeth. Byddant yn perfformio â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, o dan arweiniad Gareth Jones.

Meddai Golygydd Gweithredol Cerddoriaeth BBC Cymru Paul Bullock: “Mae BBC Cymru wedi bod yn gartref i Gerddor Ifanc y BBC er 2008. Yn y gystadleuaeth ddiwethaf cyflwynwyd categori newydd sbon ar gyfer cerddorion Jazz. Arweiniodd hynny at rownd derfynol gofiadwy ac mae’n bleser mawr cael cyflwyno Alexander Bone – enillydd cyntaf Gwobr Jazz Cerddor Ifanc y BBC - i berfformio yn Proms yn y Parc y BBC eleni."

Bydd llu o dalent yn agor y dathliadau gyda pherfformwyr sy’n cynnwys The Valli Boys, sy’n dychwelyd i Barc Singleton eto eleni. Wedi eu creu gan seren y Jersey Boys, Ben Evans o’r Hendy ger Pontarddulais, mae The Valli Boys yn grŵp a ffurfiwyd o blith goreuon talent y West End sydd wedi ymddangos mewn dros 30 o sioeau gwahanol rhyngddynt.

Yn ymuno â The Valli Boys bydd y band jazz traddodiadol o’r de, The Dixilanders. Mae’r band, sydd wedi ymddangos ar Bobol y Cwm yn siŵr o sicrhau y bydd yn noson yn cychwyn yn yr hwyliau gorau posibl.

Bydd y noson yn cael ei chyflwyno gan Alex Jones, sy’n hanu o Rydaman, a Tim Rhys-Evans o Only Men Aloud a fydd yng ngofal y noson fawreddog hon sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe.

Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio: “Mae Proms yn y Parc y BBC yn gyngerdd ardderchog bob amser. Nid yn unig y mae’n rhoi cyfle i bobl i fwynhau rhai o’r enwau mwyaf yn y byd cerddoriaeth glasurol ac opera – mae hefyd yn rhoi llwyfan i gerddorion lleol i berfformio o flaen miloedd o bobl mewn lleoliad rhyfeddol.

 “Mae talent Bae Abertawe wedi cyfrannu cymaint at gerddoriaeth dros y blynyddoedd. Mae Proms yn y Parc y BBC yn gyfle arall i dalent lleol roi Abertawe ar y map fel un o brif ddinasoedd cerddoriaeth, a hynny ledled y DU a thu hwnt.”

Os hoffech brynu tocynnau gallwch alw Llinell Gynulleidfa Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar 03700 101051 (Codir prisiau daearyddol safonol am bob galwad o ffonau sefydlog a ffonau symudol) neu ewch i bbc.co.uk/promsinthepark. Mae pris tocynnau ymlaen llaw yn £12 tan y diwrnod cyn y digwyddiad ac yna £15 ar y diwrnod. Mae mynediad am ddim i blant o dan 12 oed os ydynt yng nghwmni oedolyn.

Mae’r digwyddiad yn Abertawe yn rhan o ddathliadau Noson Olaf y Proms sy’n ymestyn allan o’r Royal Albert Hall i bob un o genhedloedd y DU ar nos Sadwrn 12 Medi, gyda digwyddiadau Noson Olaf yn Hyde Park, Llundain, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Proms y BBC yw gŵyl gerddoriaeth glasurol fwya’r byd, gyda 92 o ddigwyddiadau yn 2015 a hynny mewn cyfnod o wyth wythnos.

Mae gwahoddiad i bawb sy’n caru cerddoriaeth glasurol i ymuno â ni gyda’u picnic a’u baneri yn y cyngerdd awyr agored hwn. Bydd y noson yn cyrraedd uchafbwynt gyda’r cyd-ganu traddodiadol â chynulleidfaoedd mewn parciau ledled y DU. A bydd Proms yn y Parc y BBC eleni’n dathlu 50 mlynedd o The Sound of Music ar ffilm.

Gall dilynwyr y Proms hefyd fwynhau’r awyrgylch o gysur eu cadair feichiau gartref gyda darllediad byw o Barc Singleton ar BBC Radio Wales neu ar iPlayer yn bbc.co.uk/radiowales.

I gadw mewn cysylltiad â datblygiadau diweddaraf y digwyddiad ac i brynu tocynnau, ewch i bbc.co.uk/promsinthepark.

Rhannu |