Mwy o Newyddion
Rhybudd dros doriadau pellach i'r heddlu
Mae Liz Saville Roberts AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd wedi ymateb i ddatganiad Llywodraeth y DG ar wirfoddolwyr yr heddlu gan ddadlau y bydd creu'r rolau newydd hyn yn "esgus" i gyfiawnhau toriadau pellach, a chyhuddo San Steffan o geisio adfer problem ddyfnach gyda datrysiad dros-dro.
Cyfeiriodd Liz Saville Roberts AS at ffigyrau yn dangos fod 1 o bob 10 heddwas wedi eu colli strydoedd Cymru ers 2010 a rhybuddiodd fod toriadau pellach i gael eu cyhoeddi yn adolgyiad gwariant yr hydref.
Ychwanegodd hi fod gwirfoddolwyr yr heddlu yn gwneud cyfraniad pwysig, ond fod gan bobl yr hawl i ddisgwyl swyddogion sydd wedi eu hyfforddi'n llawn i ymateb i sefyllfaoedd anodd a pheryglus.
Meddai: "Rwy'n pryderu y bydd cyflwyno math newydd o wirfoddolwyr heddlu yn esgus i gyfiawnhau toriadau pellach i gyllidebau'r heddlu dros y misoedd nesaf.
"Fydd datrysiad dros-dro o'r fath ddim yn gwneud yn iawn am doriadau niweidiol y Toriaid.
"Gall gwirfoddolwyr yr heddlu gyflawni nifer o ddyletswyddau yn effeithiol iawn, ond mae'r cyhoedd yn disgwyl swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant llawn a gyda'r pwerau i ddelio gyda sefyllfaoedd anodd ac unigolion peryglus i ateb y galw fel fo'r angen.
"Gwelais fy hun fis diwethaf pa mor anodd yw hi i gwnstabliaid heddlu proffesiynol wneud yn siwr fod nosweithiau Sadwrn yn saff mewn ardaloedd gwledig ble fo trefi ar wasgar: ni allant fod ym mhob man fel ag y mae hi.
"Mae bron i 700 yn llai o swyddogion yr heddlu ar ddyletswydd yng Nghymru nag yn 2010 - gostyngiad o 10%. Mae disgwyl mwy o doriadau i'r gyllideb yn sgil adolygiad gwariant yr hydref.
"Mae hi'n gwbl glir na fydd diogelwch cymunedau Cymru fyth yn flaenoriaeth i San Steffan. Mae Plaid Cymru yn credu y dylid trosglwyddo'r holl bwerau dros heddlua i Gymru fel fod y gwasanaeth yn fwy atebol i'r cymunedau hynny.
"Alla i ddim dychmygu'r canghellor na'r ysgrifennydd cartref yn disgwyl cael eu gwarchod gan wirfoddolwyr yn San Steffan. Pam ddylai'r cyhoedd ddisgwyl llai?".