Mwy o Newyddion
Cefnogi gwaharddiad ar fwyd o anifeiliaid wedi’u clonio
Mae Senedd Ewrop wedi cymeradwyo cyfraith ddrafft UE fyddai’n gwahardd clonio anifeiliaid fferm a bwydydd a ddaeth ohonyn nhw a’u disgynyddion, gan gynnwys mewnforion hefyd.
Cafodd y gwaharddiad ei gefnogi gan ASE Plaid Cymru, Jill Evans, a bleidleisiodd o blaid y ddeddfwriaeth.
Er nad yw clonio ar gyfer cynhyrchu bwyd yn digwydd ar hyn o bryd yn Ewrop, mae cynnydd technolegol a gwyddonol yn golygu y gwelwyd cynnydd yn y posibilrwydd o ddefnyddio anifeiliaid wedi’u clonio mewn ffermio masnachol. Hyd yn hyn ni chafwyd cyfraith i ymdrin â’r posibilrwydd hyn.
Yn ogystal â’r pryderon moesol a moesegol ynglŷn â chlonio, cafodd pryderon difrifol eu codi ynglŷn â diogelwch bwyd, amrywiaeth genetic a lles anifeiliaid.
Wrth siarad ar ôl y bleidlais yn Strasbwrg o blaid y gwaharddiad, dywedodd Jill Evans ASE: "Mae yna wrthwynebiad anferth gan y cyhoedd i glonio yng Nghymru ac mae nifer o etholwyr wedi dod i gyswllt â fi ynglŷn â’r pwnc.
"Dos gan clonio ddim manteision i’w cynnig i ddefnyddwyr nac unrhyw effaith fuddiol ar ddiogelwch bwyd. Rwy’n falch ein bod ni wedi ymddwyn i sicrhau na fydd bwyd o anifeiliaid wedi’u clonio yn cael mynediad i’r gadwyn fwyd.
"Mae hwn yn fater moesol, moesegol ac yn un sydd yn ymwneud â diogelwch bwyd ac mae’n bwysig iawn ar gyfer lles anifeiliaid.
"Mae gwaharddiad heddiw ynglŷn â chlonio anifeiliaid yn newyddion da i ddefnyddwyr a hefyd i’n diwydiant ffermio yng Nghymru sydd yn ymfalchio yn ei gynnyrch sydd o’r ansawdd uchaf."