Mwy o Newyddion
Prifysgol Aberystwyth yw’r Brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru
Prifysgol Aberystwyth yw’r lleoliad mwyaf diogel yng Nghymru i fod yn fyfyriwr yn ôl The Complete University Guide 2015 a gyhoeddwyd ddoe.
Mae Aberystwyth hefyd ymhlith y 10 lleoliad mwyaf diogel i astudio yng Nghymru a Lloegr, gyda’r cyfraddau isaf ac ail isaf ar gyfer lladrad a byrgleriaeth.
Mae The Complete University Guide yn defnyddio data swyddogol oddi wrth yr heddlu i greu darlun o’r cyfraddau troseddau mewn sefydliadau addysg uwch a’r ardaloedd cyfagos yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r adroddiad yn ystyried tair trosedd a ystyrir fel y rhai sy’n fwyaf tebygol o effeithio ar fyfyrwyr - byrgleriaeth, lladrad a thrais (yn cynnwys troseddau rhywiol) - o fewn tair milltir o’r prif gampws.
Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad y Myfyrwyr a Rhyngwladol: “Rydw i wrth fy modd bod Prifysgol Aberystwyth wedi cadw ei safle fel y brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru.
"Mae adborth ein myfyrwyr yn dangos mai’r gymuned agos a diogel yw un o’r prif atyniadau sydd yn eu denu i astudio yma yn Aberystwyth. Mae casgliad yr adroddiad yn destun balchder i ni gan ei fod yn adlewyrchu’r berthynas glos rhwng y Brifysgol a’r gymuned leol.”
Ceir mwy o wybodaeth am The Complete University Guide ar lein yma http://www.thecompleteuniversityguide.co.uk/