Mwy o Newyddion
'Rhowch wisg wen i'r Frenhines' - Ai dyma'r ffrae fydd yn rhwygo Gorsedd y Beirdd ym mlwyddyn pen-blwydd Elizabeth o Windsor yn 90?
Mae cynllun ar droed i "uwchraddio" gwisg werdd y Frenhines er mwyn nodi ei phen-blwydd yn 90 oed eleni - ac fe allai'r ffrae ynglyn â'r mater rwygo Gorsedd y Beirdd reit i lawr y canol.
Fe all Y Cymro ddatgelu bod rhybudd o gynnig wedi'i gyflwyno gan griw o orseddogion brenhingar yn awgrymu y dylai'r Orsedd ymuno yn nathliadau swyddogol pen-blwydd y Frenhines Elizabeth II trwy roi gwisg wen iddi, yn gyfnewid am y wisg werdd sydd ganddi ers 70 o flynyddoedd.
A'r Frenhines yn paratoi am dri mis o ddathlu rhwng Ebrill a Mehefin eleni, a thafarnau Cymru a Lloegr wedi cael caniatad arbennig gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron, i fod ar agor yn hwyr dros benwythnos Ebrill 10-13, fe fydd cyfarfod arbennig o Fwrdd yr Orsedd yn cael ei gynnal er mwyn trafod sut y bydd y sefydliad uniaith Gymraeg yn ymateb i'r cais.
- Mae'r cais, y mae copi ohono wedi dod i law Y Cymro, yn awgrymu y gallai'r digwyddiad Cymraeg roi "chwistrelliad" y mae dirfawr ei angen i ffigyrau gwylwyr S4C, pe bai'r seremoni'n cael ei darlledu'n fyw ar y Sianel gydag isdeitlau Saesneg;
- Mae rhoi'r hawliau darlledu i S4C, meddai'r cynnig wedyn, yn ddarostyngedig i sicrhau gwasnaeth Huw Edwards, Llywydd Cymdeithas Cymry Llundain, yn sylwebydd swyddogol, gan iddo wneud "gwaith mor raenus" ar raglenni Priodas y Tywysog William a Catherine Middleton ddiwedd Ebrill 2011; ac yna ar raglen Jiwbili Diemwnt y Frenhines yn 2012;
- Y dylid comisiynu'r canwr a'r gwneuthurwr clocsiau, Gwilym Bowen Rhys, prif leisydd Y Bandana ac wyr i'r diweddar gyn-Archdderwydd Geraint, i lunio pâr newydd o glocsiau ar gyfer y Frenhines ar y dydd, gan iddo gael ei enwi'n Brentis y Flwyddyn dan gynllun un o elusennau Tywysog Cymru ym mis Mawrth eleni;
- Y dylai cyn-delynores y Tywysog, Hannah Stone, a'i chymar, Bryn Terfel (CBE), ddarparu cyfeiliant angylaidd a llawn awyrgylch wrth i Lizabeth o Windsor gael ei thywys yn ei gwisg wen at yr Archdderwydd Geraint Llifon trwy borth y cylch o 'gerrig' gwydr ffeibr;
- Na ddylai'r Archdderwydd newydd, mewn unrhyw anerchiad, grybwyll dim am ei linach Gymreig sy'n tarddu o Lywarch Hen a hen dywysogion Powys a Gwynedd;
- Y Bardd Cenedlaethol newydd, y prifardd coronog Ifor ap Glyn (gwisg wen efo dail llawryf ar ei benwisg) fydd yr unig un gaiff sefyll o fewn tair troedfedd i'r Frenhines, a hynny dim ond tra'n ei hannerch â cherdd rydd, "bwrpasol". Wedi'r perfformiad, byddai'n rhaid iddo gilio o'i golwg wysg ei gefn, gan ddilyn y confensiwn hynafol na chaiff neb gefnu ar goron Lloegr a'r Gymanwlad;
- Ac, mewn cynnig mentrus a allai, meddai'r rhybudd o gynnig, "bontio chwerder y blynyddoedd ers 1969 yng Nghastell Caernarfon ac yn Eisteddfod yr Urdd Aberystwyth" fe ddylid gofyn i Dafydd Iwan, sydd yn gyd-aelod o'r Urdd Ofydd er Anrhydedd (gwisg werdd) gydag Elizabeth o Windsor, i gyfansoddi a pherfformio cyfarchiad cerddorol "llawn angerdd" wrth i'r prosesiwn adael y Maes.
Aelodaeth 70 mlynedd
Mae'r cynnig yn pwysleisio ei bod hi eleni'n 70 mlynedd union ers prifwyl Aberpennar 1946, pan gafodd y Dywysoges Elizabeth - a oedd yn 20 ar y pryd - ei derbyn i Urdd Ofydd er Anrhydedd (y wisg werdd) gan yr Archdderwydd ar y pryd, Crwys (William Crwys Williams). Ei henw gorseddol byth oddi ar hynny ydi 'Elizabeth o Windsor'.
Roedd y Dywysoges yn ddibriod yn 1946 pan gafodd ei thywys at y Maen Llog yn llaw Cynan. Yna, ym mhrifwyl Caerdydd 1960, fe gafodd ei gwr, Phillip Dug Caeredin ei dderbyn i'r wisg werdd gen yr Archdderwydd Trefin (Edgar Phillips).
Ond nid y Cwîn a'i gwr oedd yr aelodau cyntaf o'r teulu brenhinol i gael eu croesawu i'r cylch. Ym mhrifwyl Abertawe yn 1926, roedd ei rhieni, y darpar Frenin Siôr VI (Dug Efrog ar y pryd) a'r ddarpar Frenhines Elizabeth (a ddaeth yn ddiweddarach yn Fam Frenhines) wedi derbyn gwisg werdd gan yr Archdderwydd Elfed, a'u henwau yng Ngorsedd oedd Albert o Efrog a Betsi o Efrog.
Cysylltiadau'r Fenni yn apelio?
Mae Y Cymro yn deall y gallai lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni eleni fod yn arbennig o dderbyniol gan Balas Buckingham ar gyfer ymweliad brenhinol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst - nid lleiaf oherwydd cysylltiadau'r dref â Brwydr Agincourt.
Fe gafodd bonheddwr lleol o'r enw Wiliam ap Thomas ei urddo'n farchog gan Harri'r VI yn 1426 (gan ddwyn y teitl March Glas Gwent) oherwydd iddo ymladd ochr yn ochr â Harri'r V yn y fuddugoliaeth bwysig yn Hydref 1415 yn erbyn Ffrainc. Roedd William ap Thomas yn byw yng Nghastell Rhaglan, sydd yn nalgylch y brifwyl eleni.
At hynny, roedd gan Gwladys, ail wraig y March Glas, ei chysylltiadau â brwydr Agincourt hefyd. Yn ôl yr hanes, roedd ei thad, Syr Dafydd Gam, ynghyd â'i gwr cyntaf, Syr Roger Fychan, ill dau wedi trengi tra'n amddiffyn y Brenin Harri'r V, ac fe gawson nhw eu hurddo'n farchogion ar eu gwely angau.
Yn nhref Y Fenni hefyd y mae'r ysgol uwchradd sy'n dwyn enw'r brenin Harri'r VIII - ac, er nad ydi Elizabeth II yn ddisgynnydd uniongyrchol iddo (oherwydd i linach y Tuduriaid ddod i ben gydag Elizabeth I) mae'r brenin a fu'n briod chwech o weithiau yn hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, ewythr i'r Frenhines bresennol, sy'n un o ddisgynyddion i'w chwaer, Marged Tudur.
Gwisg wen yn "rhoi'r neges anghywir"
Ond mae gweriniaethwyr amlwg, nad oeddent am gael eu henwi cyn cael dweud eu dweud yn y cyfarfod arbennig, yn gwrthwynebu'r symudiad i ail-gynnau cysylltiad amlwg yr Orsedd a'r Frenhiniaeth ar fwy nag un cownt:
- Yn gyntaf, am nad ydi'r Frenhines a Dug Caeredin wedi gwneud digon o ymdrech, ers eu hurddo'n wreiddiol, i ddysgu Cymraeg - un o amodau aelodaeth o Orsedd Beirdd Ynys Brydain (er mai dim ond i Lizabeth o Windsor y mae'r cynnig o "uwchraddio" wedi ei gyflwyno);
- Yn ail, am fod y cynnig yn awgrymu y dylai pob aelod o'r Orsedd sy'n cyrraedd 90 oed gael gwisg wen - arfer, yn ôl un, "sy'n gosod cynsail peryglus, os edrychwch chi ar oed cyfartalog y rhai sy'n dod i seremonïau";
- Yn drydydd, mae yna bryder gwirioneddol y gallai "gwobrwyo absenoldeb" roi'r neges anghywir i aelodau eraill "sydd ddim yn boddran troi i fyny" i weithgareddau'r Orsedd;
- Ac fel pe bai hynny ddim yn ddigon, meddai gwrthwynebwyr y cynnig, mae yna awgrym na ddylai'r Frenhines orfod dioddef penwisg yr iwnifform gorseddol, ac y dylai hi gael gwisgo un o'i choronau ei hunan. A phe bai hynny ddim yn cael ei basio, fe fyddai Lizabeth o Windsor yn bodloni i wisgo ar ben ei phenwisg, Goron Ddiemwnt Fechan Victoria - coron prin 4 modfedd o uchder, a gafodd ei gwneud yn arbennig ar gyfer ei hen-nain yn 1870 ar gyfer ei gwisgo ar ben ei het alaru. Ond, coron ydi coron, meddai gwrthwynebwyr, "ac mae gosod coron Lloegr ar ben penwisg yr Orsedd, yn rhoi'r neges ein bod ni'n dal i fod yn daeog".
Yr Orsedd yn annibnynol
Mae Y Cymro yn deall na fu ymgynghori o gwbl gyda Chofiadur Gorsedd y Beirdd, Penri Tanad, na'r Arwyddfardd Dyfrig ab Ifor, cyn i'r cynnig hwn gael ei daflu i'r cylch.
Mae Gorsedd y Beirdd yn sefydliad sy'n hollol annibynnol ar yr Eisteddfod Genedlaethol. Felly penderfyniad yr Orsedd yn unig fydd hwn - y Bwrdd yn gyntaf, ac yna'r 2,500 o aelodau llawr gwlad - ac ni fydd gan aelodau o Fwrdd Rheoli, Cyngor na Llys yr Eisteddfod Genedlaethol (oni bai eu bod nhw hefyd yn aelodau o'r Orsedd) yr hawl i ddweud eu dweud ar y mater.
Yn y cyfarfod caëedig heddiw (ddydd Gwener, Ebrill 1), mae'n argoeli i fod yn drafodaeth danllyd iawn…