Mwy o Newyddion
Comisiynydd yn cynnal ymchwiliadau safonau i gwmnïau trên a bws
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn casglu barn y cyhoedd a sefydliadau ar gyfer ymchwiliadau safonau i gwmnïau trên a bws.
Ymchwiliad safonau yw’r ymarferiad statudol lle mae’r Comisiynydd yn casglu tystiolaeth gan sefydliadau a’r cyhoedd a’r cam cyntaf yn y broses o ystyried pa safonau mewn perthynas â’r Gymraeg allai sefydliadau orfod cydymffurfio â nhw.
Wrth gynnal ymchwiliad safonau, bydd y Comisiynydd yn rhoi sylw i’r angen am sicrhau nad yw gofynion i gydymffurfio â safonau yn afresymol neu’n anghymesur.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae pobl yn defnyddio gwasanaethau trên a bysiau yn ddyddiol ac mae trafnidiaeth yn chwarae rôl ganolog ym mywyd bob dydd pobl.
“Dyma’r cam diweddaraf yn y broses o weithredu Mesur y Gymraeg.
"Bydd safonau’n arwain at sefydlu hawliau i ddinasyddion yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg, ac felly mae derbyn barn a thystiolaeth y cyhoedd ar y cam hwn yn rhan bwysig o’r gwaith.”
Mae holiadur ar wefan y Comisiynydd sy’n rhoi cyfle i’r cyhoedd nodi beth maent yn teimlo sy’n rhesymol i’r sefydliadau dan sylw ei wneud a’i ddarparu’n Gymraeg.
Dyddiad dechrau’r ymchwiliad safonau hwn oedd 31 Mawrth a bydd yn dod i ben ar 30 Mehefin.
Bydd y Comisiynydd yn ystyried y dystiolaeth a ddaw i law ac yn cyflwyno adroddiadau safonau at sylw Gweinidogion Cymru ar gyfer llunio rheoliadau safonau.
Mae’r Comisiynydd eisoes wedi cynnal ymchwiliadau gyda dros 200 o sefydliadau; ac mae’r 26 sefydliad cyntaf (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru, Gweinidogion Cymru ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol) bellach yn gweithredu safonau’r Gymraeg.