Mwy o Newyddion
Hawliau newydd i ddefnyddio’r Gymraeg
Mae gan bobl Cymru hawliau newydd i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r hawliau’n deillo o safonau’r Gymraeg sy’n dod i rym heddiw.
Mae’r safonau cyntaf yn nodi’r dyletswyddau cyfreithiol newydd sydd ar gynghorau sir, Llywodraeth Cymru a’r parciau cenedlaethol i ddefnyddio’r Gymraeg.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae heddiw’n garreg filltir bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg.
"Gyda’r safonau cyntaf yn dod yn weithredol, mae gan bobl yng Nghymru hawliau newydd i ddefnyddio’r Gymraeg.
“Er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’u hawliau, rwy’n cychwyn ar gyfnod o ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o’r hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg.
"Drwy gyhoeddi fideo, tudalen ymgyrch ar ein gwefan ac annog defnydd o’r hashnod #hawliau ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y bydd y neges yn cyrraedd cynulleidfa eang.
"Byddaf yn gweithio’n agos â nifer o fudiadau cenedlaethol a chymunedol yng Nghymru er mwyn lledaenu’r neges ymysg eu haelodau.”
Cliciwch yma i wylio’r fideo ‘Mae gen i hawliau’.
Dywedodd Penri Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, mudiad ymbarél sy’n cynrychioli nifer o fudiadau a chymdeithasau Cymraeg ledled Cymru: “Mae Dathlu’r Gymraeg yn falch o weld Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn cael ei weithredu.
"Mae’r Mesur yn datgan na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae cyfrifoldeb nawr ar y sefydliadau i ddarparu gwasanaethau’n Gymraeg ac mae angen iddynt weithredu’n gadarnhaol er mwyn cynnig darpariaeth teilwng yn y Gymraeg.”
Dywedodd Sioned Hughes, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Un o brif amcanion yr Urdd yw’r rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc fyw eu bywydau’n llawn drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac fel mudiad rydym yn croesawi’r datblygiad yma sy’n tanlinellu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru.”
Dywedodd Meryl Davies, Llywydd Merched y Wawr: “Fel dinasyddion, rydym angen defnyddio’r gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliadau hyn yn ein bywydau bob dydd.
"Hyd yma, rhywfaint o ddamwain a hap oedd hi i dderbyn gwasanaeth Cymraeg, ac roeddent yn aml yn amrywio gan ddibynnu ar le yng Nghymru oeddech yn byw.
"Fel mudiad sy’n cynrychioli aelodau ym mhob cwr o’r wlad, rydym yn croesawu’n fawr bod gan bobl bellach hawliau i ddefnyddio’r iaith lle bynnag yng Nghymru bont yn byw.”
Dywedodd Siân Powell, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn adran Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd: “Yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rydym yn mynd ati i greu gweithlu ar gyfer Cymru fydd yn gallu gweithio’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae’r safonau newydd yn creu’r cyd-destun a’r galw am weithlu dwyieithog, sgilgar, ac mae’r cyfleoedd hyn yn tanlinellu ymhellach fanteision astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Llun: Meri Huws