Mwy o Newyddion
Leanne Wood yn galw am gamau cadarn i leihau'r effaith ar weithwyr dur
Mae Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddangos uchelgais a gweithredu'n rhagweithiol i leihau'r effaith niweidiol yn sgil penderfyniad Tata i werthu ei safleoedd yn y DU.
Dywedodd Leanne Wood y dylai'r llywodraeth geisio gweithio gyda Tata i helpu i ganfod buddsoddwr amgen a chefnogi Tata er mwyn cael mynediad i'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiad Strategol a chronfeydd Horizon 2020.
Mae Plaid Cymru wedi dweud yn flaenorol y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cymryd cyfran dros dro yn y cwmni os nad ellir dod o hyd i fuddsoddwr amgen ar unwaith.
Byddai hyn yn helpu'r cwmni i adeiladu gorsaf bwer newydd ar y safle, a fyddai yn ei thro yn lleihau allyriannau a chostau ynni - rhywbeth y mae Tata wedi ei adnabod fel problem. Dylai Llywodraeth DG chwarae rhan actif yn hyn oll hefyd, meddai.
Yn y cyfamser, dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol ail-ymgynnull er mwyn cydlynnu ymateb gwleidyddol.
Yn flaenorol mae'r Prif Weinidog wedi wfftio galwadau ar Lywodraeth Cymru iddynt lansio menter ar-y-cyd gyda'r cwmni, gan ddadlau y byddai'n costio "miliynau lawer o bunnoedd."
Dywedodd Leanne Wood: "Mae'r ddau lywodraeth wedi bod yn araf wrth ymateb i'r argyfwng hwn. Roedd Plaid Cymru yn cyflwyno cynlluniau i achub ein diwydiant dur ddeufis yn ôl. Mae'r amser hynny wedi ei golli bellach.
"Yn flaenorol mae'r Prif Weinidog wedi wfftio galwadau Plaid Cymru i'r llywodraeth lansio menter ar-y-cyd gyda'r cwmni er mwyn sicrhau ei ddyfodol a goroesi'r cyfnod anodd hwn.
"Mae Plaid Cymru o'r farn fod y diwydiant dur a'r swyddi o fewn y diwydiant hwn yn rhan bwysig o'r economi Gymreig ac yn rhy werthfawr i'w colli.
"Os all Llywodraeth Cymru ddod o hyd i £1biliwn i wario ar ambell filltir newydd o briffordd yn ne-ddwyrain y wlad, yna does bosib y gall sicrhau dyfodol un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru am lai o arian.
"Yw'r diwydiant dur yn llai pwysig yn strategol na'r maes awyr, er enghraifft?
"A dylai Llywodraeth y DU gyfrannu at yr ymdrech hefyd, yn ogystal â gwneud mwy ar lefel Ewropeaidd i ddefnyddio tollau i atal dympio dur o China.
"Mae Plaid Cymru wedi galw am ail ymgynnull y Senedd er mwyd cydlynnu ymateb gwleidyddol i'r argyfwng.
"Gall dur sicrhau dyfodol disglair yng Nghymru gyda chefnogaeth briodol gan y llywodraeth.
"Rhaid i lywodraethau Cymru a'r DU sicrhau fod safleodd Tata yng Nghymru mor ddeniadol a phosib i fuddsoddwyr posib.
"Mae Plaid Cymru wedi mynnu ers peth amser y dylid cadw pob opsiwn ar y bwrdd o ran sut yr aiff y llywodraeth ati i ddiogelu dyfodol dur - gweithredu, nid geiriau, sydd ei angen nawr gan Lywodraeth Cymru."