Mwy o Newyddion
Cymru'n arwain y ffordd drwy gofrestru gweithwyr cymorth dysgu
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a cholegau addysg bellach ar ei chofrestr genedlaethol o ymarferwyr addysg.
Dyma ehangiad diweddaraf Cyngor y Gweithlu Addysg, a ddaeth i rym heddiw, ar ôl cynnwys athrawon AB flwyddyn yn ôl.
Ar hyn o bryd, mae dros 28,000 o weithwyr cymorth dysgu yng Nghymru, yn gweithio swyddi amrywiol, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, technegwyr a hyfforddwyr dysgu.
Byddant yn ymuno â 43,000 o athrawon ysgol ac AB sydd eisoes ar y rhestr, fel rhan o'r nod i wella safonau a rheoleiddio'r gweithlu addysg cyfan yng Nghymru.
Mae cofrestru gweithwyr cymorth dysgu yn cydnabod gwaith pwysig ond sy'n aml yn cael ei danbrisio ynghyd â'r rôl allweddol maent yn eu chwarae yn system addysg Cymru.
Dywed Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, Hayden Llewellyn: "Mae cofrestru gweithwyr cymorth dysgu ysgol ac addysg bellach o fewn un corff proffesiynol yn gwneud synnwyr ar gyfer gwlad fel Cymru, ac mi fydd yn ganolog i ddatblygiad gweithlu addysg sy'n barod i gwrdd ag anghenion y dirwedd addysg sy'n brysur newid yng Nghymru, gan gynnwys datblygu a chyflenwi cwricwlwm newydd yn ein hysgolion.
"Mae cofrestru hefyd yn uwchraddio statws gweithwyr cymorth dysgu, yn ehangu mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu gyrfa.
"Rydym wedi dod i ddiwedd blwyddyn o ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am y newid ac wedi cwrdd ag ymarferwyr o Fôn i Fynwy.
"Mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol dros ben, ac rydym yn gwerthfawrogi cymorth y staff cymorth dysgu a'u hundebau."
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: "Rwyf yn croesawu'r newyddion yma.
"Mae cofrestru gweithwyr addysg yn newyddion da i rieni, dysgwyr, cyflogwyr a'r cyhoedd.
"Rydym yn benderfynol o godi safonau dysgu ac addysgu yng Nghymru.
"Bydd cofrestru'r gweithlu addysg yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni hyn ac yn helpu gwella ansawdd cyffredinol yr addysg mae ein pobl ifanc yn ei gael, ac mae'n bleser gweld Cymru yn arwain y ffordd o fewn y DU ar y mater hwn."
Dylai unrhyw weithiwr cymorth dysgu sy'n ansicr o'u statws neu sydd angen rhagor o wybodaeth am y broses gofrestru gysylltu â thîm cymwysterau a chofrestru CGA ar 029 2046 0099 neu drwy e-bostio cofrestru@cga.cymru