Mwy o Newyddion
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi nawdd ar gyfer gwyliau a digwyddiadau mawrion fel rhan o ddathliadau Roald Dahl 100
Bydd dathliadau canmlwyddiant geni Roald Dahl – un o hoff storïwyr y byd – yn lledaenu i bob cwr o Gymru eleni gyda diolch i Dyfeisio Digwyddiad, cynllun nawdd newydd gan Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.
Bydd y cynllun yn rhoi’r cyfle i bobl dros Gymru gyfan i fwynhau llenyddiaeth, ysgrifennu creadigol a darllen trwy gynnig cymorth ariannol i ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi eu trefnu i ddathlu Roald Dahl 100 yng Nghymru.
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw pa sefydliadau sy’n derbyn nawdd trwy Bennod 1 Dyfeisio Digwyddiad sy’n cynnig cymorth ariannol i wyliau a digwyddiadau mawrion, preswylfeydd a rhaglenni estynedig o weithgaredd.
Bydd llyfrgelloedd, ysgolion, canolfannau celfyddydol, cestyll, gwyliau a chanolfannau cymdeithasol ar hyd a lled y wlad dan eu sang gyda phobl o bob oed wrth iddynt ddathlu geiriau hudolus, straeon a chymeriadau Roald Dahl.
Derbyniwyd ceisiadau gan rai o sefydliadau a chwmnïau celfyddydol blaenllaw Cymru.
Yn y rownd gyntaf yn unig, mae’r canlynol wedi derbyn nawdd Dyfeisio Digwyddiad: Gŵyl y Gelli, Oriel Davies (Y Drenewydd), Galeri Caernarfon, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Gŵyl Spread the Word (Merthyr Tudfil), Gŵyl Ryngwladol Abertawe, Cyngor Sir Ddinbych, GŵylGrai – gŵyl gelfyddydol genedlaethol newydd i bobl ifanc, a Gŵyl Adrodd Straeon Beyond the Border. Cyhoeddir manylion pellach am y rhaglenni o weithgaredd yn fuan ar wefan newydd Roald Dahl 100 Cymru: www.roalddahl100.cymru
Fe ariennir Dyfeisio Digwyddiad gan Llywodraeth Cymru ac fe’i gefnogir gan Ystâd Lenyddol Roald Dahl.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Gyda’r cyhoeddiad hwn mae’r momentwm ar gyfer dathliadau Roald Dahl 100 yng Nghymru yn cynyddu.
"Rwy’n gobeithio y bydd y digwyddiadau a ariennir yn ysbrydoli nifer o bobl i fynd ati i ddarllen gwaith Roald Dahl yn ystod 2016 a thu hwnt gan agor y drws i fyd llawn creadigrwydd a darganfyddiad.”
Mae gan Roald Dahl le yng nghalon miliynau o bobl, hen ac ifanc ar draws y byd. Er hynny, nid yw’r mwyafrif ohonynt yn ymwybodol fod y storïwr arbennig yn Gymro. Mae Llenyddiaeth Cymru, y Cwmni Cenedlaethol â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru, wedi penderfynu ymgymryd â’r dasg o newid hynny, a dod â Dahl yn ôl i’w briod le – Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: “Yn 2016, rydym am ddod â Roald Dahl yn ôl i Gymru. Diolch i gefnogaeth Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru ac Ystâd Lenyddol Roald Dahl, gallwn wireddu’r freuddwyd honno. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio â chymunedau, grwpiau ieuenctid, gwyliau, sefydliadau celfyddydol a busnesau ar hyd a lled y wlad er mwyn sicrhau fod y canmlwyddiant hwn yn cael ei ddathlu ym mhobman a’i fwynhau gan bawb.”
Bydd rhaglen allestyn a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid yn canolbwyntio ar yr agenda cyfiawnder cymdeithasol er mwyn sicrhau fod cyfle i bobl o bob oed ac o bob cefndir i gymryd rhan yn nathliadau Roald Dahl 100. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Llenyddiaeth Cymru.
Bydd dathliadau Roald Dahl 100 yn rhan o Flwyddyn Antur Llywodraeth Cymru, menter i hyrwyddo twristiaeth ble bydd Cymru’n adeiladu ar ddatblygiadau newydd a dros 10 mlynedd o fuddsoddiad parhaol i wneud Cymru’n un o brif gyrchfannau antur y DU.
Llun: Lleucu Siencyn