Mwy o Newyddion
Andrew y cogydd Michelin yn addo hybu cynnyrch Cymreig yng Nghanolfan Bodnant
Mae disgybl i’r cogydd Michelin enwog Michael Caines ar fin chwarae rhan flaenllaw mewn canolfan ragoriaeth ar gyfer bwyd Cymru.
Mae Andrew Sheridan yn addo hybu cynnyrch Cymreig yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant yn Nyffryn Conwy, gyda’r nod o wneud bwyty’r Ganolfan “y gorau yng Nghymru”.
Mae’r ganolfan wedi ail-frandio’r bwyty fel ‘Andrew Sheridan yn y Llofft Wair’ er mwyn arddangos ei arbenigedd coginiol.
Mae gyrfa Andrew yn cynnwys gweithio mewn bwytai yng Ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr, gan gynnwys Gwesty’r Abode yng Nghaer lle bu’n gweithio ochr yn ochr â Michael Caines.
Mae’r cogydd nodedig, sy’n byw yn Ynys Môn, wedi ennill llu o wobrau coginio - yn 17 oed cyrhaeddodd rownd gyn-derfynol cystadleuaeth Cogydd Ifanc y Flwyddyn y BBC ac yn ddiweddarach enillodd wobr Cogydd y Flwyddyn y Gogledd Orllewin, ac yn ei swydd flaenorol roedd yn rhan o’r ymdrech i ennill gwobr Prif Fwyty Gwesty y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd Cymru.
Ef bellach yw’r cogydd gweithredol yn Bodnant, gan oruchwylio bwyty’r Llofft Wair, yr ystafelloedd te, y becws, yr ysgol goginio a’r delicatessen.
“Rwyf am i Bodnant fod yn brofiad anhygoel ar gyfer fwyd, ac rwyf am weld y bwyty yn cael ei chydnabod fel y gorau yng Nghymru,” meddai Andrew.
“Mae gan y ganolfan gynnyrch gwych sy’n cael ei wneud ar y safle - caws, menyn a hufen iâ - yn ogystal â chownter cigydd yn siop y fferm, a’r holl lysiau ffres sy’n cael eu tyfu’n lleol.
“Felly, mae’r cynnyrch Cymreig gorau wrth law ac rwyf am wneud y gorau o hynny.
“I mi, mae cegin lwyddiannus yn golygu cael tîm sy’n gweithio’n dda gyda’i gilydd ac sy’n gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth ar hyd yr adeg. Mae’r bwyd ond mor gryf â’r tîm - dyna pam rwy’n awyddus i sicrhau bod y tîm bwyd yma yn Bodnant gyda’r gorau.
“Rwy’n credu fod pobl yn bwyta gyda’u llygaid ac rwyf am sicrhau bod ein cwsmeriaid yn profi bwyd rhagorol, boed yn bryd o fwyd yn y Llofft Wair, byrbryd yn yr ystafelloedd te neu ddewis rhywbeth i’w fwyta gartref o gownter delicatessen siop y fferm.”
Mae bellach yn cynnig cyfle i gwsmeriaid ddysgu sut i wneud y seigiau sydd ar y fwydlen dymhorol y Llofft Wair yn Ysgol Coginio Bodnant, yn ogystal â chynnig cyrsiau eraill sy’n cynnwys dysgu sut i wneud pasta, pwdinau a choginio cig a physgod.