Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mawrth 2016

Cyflwyno achos dros drydaneiddio prif lein rheilffordd y Gogledd

Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi nodi'r achos dros drydaneiddio prif lein rheilffordd arfordir y Gogledd erbyn 2024. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn gwireddu potensial economaidd y rhanbarth.

Heddiw, cyflwynodd y Gweinidog Achos Busnes Amlinellol dros drydaneiddio'r lein o Gaergybi a Llandudno i Warrington a Crewe i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Patrick McLoughlin.

Mae'r achos wedi'i ddatblygu gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cynghrair Mersi a Dyfrdwy a Phartneriaeth Fenter Leol Swydd Gaer a Warrington fel rhan o bartneriaeth ehangach i ddatgloi potensial economaidd lawn yr ardal.

Dywedodd Mrs Hart: "Mae ardaloedd y Gogledd, Swydd Gaer a Chilgwri yn creu £35 biliwn o allbwn economaidd y flwyddyn.

"Mae'r swm hwn yn anarferol o fawr o'i gymharu ag economïau trawsffiniol eraill yn y DU.

"Mae'r potensial sylweddol am dwf economaidd pellach yn cael ei dal yn ôl gan y seilwaith rheilffordd annigonol yn y rhanbarth.

"Mae Network Rail yn rhagweld y bydd y galw am wasanaethau rheilffordd rhwng y Gogledd a Gogledd-orllewin Lloegr yn codi 80% erbyn 2043 sy'n dangos cryfder y cysylltiadau economaidd rhwng y rhanbarthau hyn a'r rhyngddibyniaeth yn y dyfodol.

"Mae ein hachos busnes dros drydaneiddio'n egluro sut y bydd trydaneiddio a moderneiddio'r rheilffyrdd yn y Gogledd yn dod â manteision economaidd a chyflogaeth sylweddol ar draws y rhanbarth.

"Mae Astudiaeth Llwybr Cymru Network Rail eisoes wedi rhestru hyn yn brosiect â blaenoriaeth ar gyfer Cyfnod Rheoli 6, o 2019 i 2024 ac rwy'n annog yr Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau bod hyn yn digwydd."

Mae'r achos busnes yn nodi y bydd buddsoddi mewn seilwaith y rheilffyrdd yn cefnogi datblygiadau cyflogaeth a strategol allweddol yn rhanbarth Gogledd Cymru / Gogledd-ddwyrain Lloegr sydd â'r potensial o gyflwyno dros 1000 hectar o dir cyflogaeth, creu 1 miliwn troedfedd sgwâr o ofod masnachol mewn canol dinas a 70,000 o swyddi newydd erbyn 2040.

Er mwyn i botensial yr ardal gael ei gwireddu, bydd angen manteisio ar farchnad lafur ddyfnach ac ehangach o weithwyr.

Mae'n rhaid i'r rheilffordd chwarae rhan hanfodol wrth alluogi pobl i symud i ardaloedd cyflogaeth o ddalgylch ehangach ar hyd Arfordir y Gogledd a thu hwnt.
 

Rhannu |