Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mawrth 2016

Corff Gwarchod Iechyd yn gofyn barn am y Gwasanaeth Nyrsio Ardal yng ngogledd Cymru

Mae Corff Gwarchod Iechyd Gogledd Cymru – CICGC, yn annog pobl i roi eu barn am eu profiadau o’r gwasanaeth Nyrsio Ardal ar draws gogledd Cymru.

Meddai Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC): "Un o’n swyddi pwysig yw cadw golwg ar y gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru ac mae hyn yn cynnwys y Gwasanaeth Nyrsio Ardal.

"Rydym eisiau gwybod beth yw profiadau pobl o’r gwasanaeth - yn dda neu’n ddrwg – a byddwn yn gofyn i’r rhai sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth yn ddiweddar i roi gwybod i ni am agweddau o’r Gwasanaeth Nyrsio Ardal."

Bydd CICGC yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i gynnal arolwg drwy gydol Ebrill 2016.

Aeth Mr Ryall-Harvey yn ei flaen i ddweud: "Rydym wedi llunio holiaduron i sicrhau fod pobl (os ydynt yn glaf, perthynas neu’n ofalwr) yn gallu rhoi gwybod i ni am holl agweddau’r Gwasanaeth Nyrsio Ardal.

"Bydd y staff Nyrsio Ardal yn rhannu’r holiaduron wrth ymweld â chleifion a’u teuluoedd, ond gellid llenwi’r holiaduron yn gyfrinachol a’u dychwelyd i CICGC fydd yn dadansoddi’r canlyniadau yn annibynnol.

"Byddwn wedyn yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i wneud yn siŵr fod yr hyn a ddywedwyd yn cael ei ystyried."

I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg neu i adael i CICGC i wybod eich barn, cysylltwch â CIC ar 01248 679 284 neu admin@waleschc.org.uk neu ewch i’n gwefan www.bcchc.org.uk

Rhannu |