Mwy o Newyddion
Chwe chynllun trafnidiaeth leol i gael arian ychwanegol
Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, wedi cyhoeddi y bydd pedwar prosiect trafnidiaeth leol yn cael eu cwblhau'n gynt na'r disgwyl a bydd dau gynllun newydd yn cael £510,000 o arian ychwanegol.
Mae'r arian ar gyfer y cynlluniau yn Abertawe, Cwm Cynon, Queensferry, Magwyr a Chaerdydd, yn dod ar ôl i gyllid o Grant Cronfa Trafnidiaeth Leol 2015-16 gael ei ddyrannu yn dilyn tanwariant gan brosiectau eraill.
Dywedodd Mrs Hart: “Mae'n bleser gennyf allu ailddyrannu £510,000 i roi cymorth i ddau brosiect newydd o Gronfa Trafnidiaeth Leol 2015-16 a helpu pedwar cynllun arall ar eu ffordd.
"Bydd y prosiectau'n gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau, gwella diogelwch ac amseroedd teithio a helpu mwy o bobl i gerdded a beicio."
Dyma'r ddau brosiect newydd a fydd yn derbyn arian:
- Bydd prosiect Olwynion i'r Gwaith yn Abertawe yn cael £25,000 er mwyn prynu sgwteri a fydd yn cael eu rhoi ar fenthyg i bobl nad oes ganddynt ffordd o gyrraedd y gwaith.
- Mae Astudiaeth Magwyr yn cael £20,000 i adeiladu estyniad ar faes parcio Gorsaf Cyffordd Twnnel Hafren ac i gynnal astudiaeth bellach ar gyfer gwelliannau pellach yng Ngorsaf Magwyr.
Bydd pedwar prosiect yn cael dyraniad ychwanegol o Gronfa Trafnidiaeth Leol 2015-16.
- Bydd £157,000 ychwanegol yn cael eu rhoi i gyflymu'r gwaith o ddarparu lonydd bysiau yn y ddau gyfeiriad ar yr Heol Ddwyreiniol yr A48 rhwng Cyfnewidfa Pentwyn a chyfnewidfa Ffordd Gyswllt Pentwyn yr A4232.
- Bydd £200,000 ychwanegol ar gyfer Cylchfan Queensferry a chynllun Gwella Cyffordd Signalau Asda i wella mynediad at safleoedd yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, gan gynnwys safle datblygu Porth y Gogledd / Maes Awyr. Bydd yr arian ychwanegol yn galluogi'r gwaith ychwanegol ar y briffordd i gael ei gwblhau.
- Bydd prosiect Porth Cwm Cynon a fydd yn darparu ffordd gyswllt newydd o'r dwyrain i'r gorllewin yn cael £98,000 i allu prynu'r tir ar gyfer y cynllun.
- £10,000 i allu prynu tir ar gyfer cynllun teithio llesol Kingsbridge i ddarparu llwybrau cerdded a beicio.