Mwy o Newyddion
Lansio menter gymunedol uchelgeisiol newydd ar Ynys Môn
Lansiwyd y ganolfan gyntaf sy’n eiddo i’r gymuned ar Ynys Môn yn Llanfechell ddydd Gwener, 1 Ebrill. Mae’r fenter, Siop Mechell, yn cynnwys caffi, gwasanaeth post, siop, cegin gymunedol, fflat, gardd a chyfleusterau eraill i'r pentref - a’r cyfan yn eiddo i breswylwyr Llanfechell ac yn cael eu rheoli ganddynt.
Yn y digwyddiad lansio yng Nghaffi Siop Mechell ddydd Gwener, roedd Albert Owen AS, Rhun ap Iorwerth AC a gwesteion eraill o bob cwr o'r ynys, yn croesawu’r fenter newydd fel enghraifft o bentref diarffordd yng Nghymru yn cymryd rheolaeth dros ei ddyfodol.
Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: “Rwy’n llongyfarch Menter Mechell a’r holl wirfoddolwyr lleol am eu hymdrechion yn sicrhau bod yr adeilad hanesyddol yn parhau i fod yn ganolbwynt i'r gymuned leol, ac rwy’n falch bod eu hymdrechion wedi bod yn werth chweil.”
Prynodd gwirfoddolwyr o'r pentref adeilad Siop Mechell, sy’n 300 mlwydd oed, ac sy’n wynebu’r eglwys o’r 12fed ganrif yn Llanfechell, a chafodd ei weddnewid yn llwyr yn 2014-15, o dan arweiniad Menter Mechell, grŵp gweithredu’r pentref.
Wrth siarad ar ran y Grŵp Rheoli, dywedodd Robin Grove-White, o Lanfechell: “Mae Llanfechell wedi bod yn bentref cydweithredol iawn erioed. Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau ein dyfodol yn y cyfnodau anodd hyn, gan sicrhau bod bywyd y pentref yn parhau i ffynnu a datblygu.
“Nod Siop Mechell, gyda’i gaffi a’i gyfleusterau eraill, yw bod yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, gwasanaethau lleol a mentrau economaidd yn y dyfodol yn Llanfechell.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i gyrff fel Pŵer Niwclear Horizon, Cyfenter a Magnox, sydd wedi helpu i dalu am yr adeilad a’r offer ar ei gyfer, gan atgyfnerthu ymdrechion pellgyrhaeddol y pentref.”
Dywedodd Greg Evans, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Pŵer Niwclear Horizon: “Mae chwarae rhan weithredol yn y gymuned yn bwysig iawn i Horizon. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o brosiect mor gyffrous, ac yn dymuno’n dda i’r tîm yn y dyfodol.”