Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Mawrth 2016

Croesawu hawl newydd i wersi nofio Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r ffaith fod awdurdodau lleol bellach yn gorfod cydnabod hawl pobl i wersi nofio a chyrsiau eraill yn Gymraeg, wrth i reoliadau newydd ddod i rym.

Ar ddechrau 2015, pasiodd y Cynulliad reoliadau a elwir yn Safonau'r Gymraeg, gan greu hawliau newydd i'r Gymraeg. Mae dros gant o hawliau i'r Gymraeg yn y rheoliadau – o'r hawl i ohebiaeth Gymraeg, peiriannau hunanwasanaeth Cymraeg, dysgu'r Gymraeg yn y gweithle i gyrsiau yn Gymraeg.

Un o'r hawliau newydd hynny i'r Gymraeg ydy'r hawl i gyrsiau addysg yn Gymraeg, sy'n cynnwys gwersi nofio:

"Os byddwch yn cynnig cwrs* addysg sy’n agored i’r cyhoedd, rhaid ichi ei gynnig yn Gymraeg."** (Safon 84, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015)

Mae pob un cyngor yn gorfod gweithredu'r hawl hon o'r 30ain Mawrth eleni ymlaen**.

Dywedodd Manon Elin, llefarydd y Gymdeithas ar hawliau iaith: "Mae'n hollbwysig fod gwersi nofio a gweithgareddau tebyg ar gael yn Gymraeg – nid yn unig er mwyn i'r iaith allu ffynnu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, ond hefyd er mwyn parchu'r hawl sydd gan blant, beth bynnag eu cefndir, i ddysgu a mwynhau yn iaith eu gwlad.

"Mae'n wych felly bod y gyfraith, o heddiw ymlaen, yn cydnabod yr hawl honno, ac y bydd Cynghorau Sir ymhob rhan o'r wlad yn gorfod darparu gwersi nofio a chyrsiau eraill yn y Gymraeg.

"Fe fyddai'n beth da pe bai pobl ymhob rhan o Gymru yn cysylltu â'u Cyngor Sir â'u canolfannau hamdden lleol er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r hawl newydd a'r cyfleodd cyffrous a ddaw yn ei sgil.

"Mae'r broses o osod Safonau'r Gymraeg wedi bod llawer yn rhy gymhleth, ond er y gwendidau, o'u gweithredu'n iawn bydd yn gam ymlaen.

"Maent yn rhoi hawl nid yn unig i wersi nofio, ond hefyd i siarad gyda'r awdurdodau yn Gymraeg dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb, ac i weld y Gymraeg ar eu gwefannau a'u hadeiladau – ac mae hynny i'w groesawu."

Llun: Manon Elin

 

*Ystyr 'cwrs' yn y rheoliadau yw: "At ddibenion safonau 84, 85 a 86 (cyrsiau), ystyr ?cwrs addysg yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd…"

**Mae amod ar yr hawl yn y rhan fwyaf o siroedd sy'n golygu nad oes rhaid cynnig y cwrs os oes asesiad wedi ei gynnal gan y cyngor sy'n dangos nad oes galw am y cwrs yn Gymraeg. Does dim amod o'r fath ym Mhowys na Gwynedd, felly mae rhaid iddyn nhw gynnig gwersi yn Gymraeg bob tro. Mae Cyngor Nedd Port Talbot wedi cyflwyno her gyfreithiol i'r Safon yma, felly ni fydd yr hawl yn weithredol nes fod yr apêl wedi cael ei dyfarnu. 

Rhannu |