Mwy o Newyddion
Cynlluniau i fynd i'r afael â chlefyd cardiofasgwlaidd mewn cymunedau difreintiedig i'w hymestyn ledled Cymru
Bydd cynlluniau i leihau nifer y bobl sy'n marw cyn pryd o ganlyniad i glefyd cardiofasgwlaidd yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig y De yn cael eu hymestyn ledled Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw.
Sefydlwyd Rhaglen y Ddeddf Gofal Wrthgyfartal yng Nghymoedd y De - yn ardaloedd byrddau iechyd prifysgol Cwm Taf ac Aneurin Bevan - i weld pwy sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd a darparu rhaglen o ymyrraeth yn y gymuned.
Mae'r rhaglen wedi helpu i adnabod pobl sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd a chefnogi cynlluniau atal a rheoli risg mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol.
Mae'n ffordd o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu datblygu lle mae'r angen mwyaf. Mae'n rhoi'r cyngor a'r cymorth cywir i bobl, ar gyfer eu hanghenion penodol.
Lansiodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething raglen Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Byw’n Well Byw’n Hirach ym mis Ionawr 2015.
Meddai: "Er bod disgwyliad oes wedi gwella yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, rhaid i ni wneud mwy i roi sylw i'r anghydraddoldebau annerbyniol mewn canlyniadau iechyd rhwng ein cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig. Mae'n annerbyniol bod hyd eich oes yn dibynnu ar eich cod post.
"Rydyn ni'n rhagweld y bydd cyflwyno'r rhaglen arloesol hon yn arwain at lai o gyfeiriadau at ofal eilaidd a llai o dderbyniadau brys yn ymwneud â chlefyd cardiofasgwlaidd.
"Yn y tymor hir, dylai hyn arwain at leihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau sydd wedi'u hachosi gan glefyd cardiofasgwlaidd."
Bydd profiadau rhaglenni byrddau iechyd prifysgol Cwm Taf ac Aneurin Bevan yn helpu i gefnogi byrddau iechyd eraill i ddatblygu mentrau tebyg yn eu cymunedau. Bydd y gwaith yn cael ei ategu gan gynlluniau cyflawni clefyd y galon, strôc a diabetes, gan sicrhau fod atal y clefydau cyffredin hynny yn cael blaenoriaeth uchel.
Dywedodd Dr Gill Richardson, cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Mae gan Gymru hanes balch o asesu clefyd cardiofasgwlaidd ers dyddiau Dr Julian Tudor-Hart.
"Mae'n gyffrous iawn gweld rhaglenni i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn clefyd y galon, strôc a diabetes ymysg cymunedau difreintiedig yn cael eu lansio bellach ar draws Cymru."
Gall y perygl o gael nifer o gyflyrau, gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, gynyddu yn sgil ffactorau fel diet gwael, dim digon o ymarfer corff, smygu a gormod o alcohol.
Dywedodd Victoria Norman, rheolwr prosiect Gwiriadau Iechyd Cwm Taf: "Mae'r gwaith gyda meddygfeydd teulu wedi bod yn allweddol ar gyfer y rhaglen hon. Mae brwdfrydedd y staff i gyflawni'r rhaglen hefyd wedi bod yn ffactor yn ei llwyddiant."