Mwy o Newyddion
Dyfodol dur Cymru mewn perygl - “Rhowch arweiniad,” Leanne Wood yn annog Llywodraeth Cymru
Mae angen i Lywodraeth Cymru roi arweiniad strategol wrth i’r argyfwng dur barhau i wasgu yng Nghymru, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.
Dywedodd Leanne Wood fod y Prif Weinidog wedi galw am weithredu gan Lywodraeth y DG er mwyn sicrhau dyfodol y diwydiant, ond ei fod wedi methu ag amlinellu unrhyw gamau arwyddocaol y buasai ei lywodraeth ei hun yn gymryd.
Mae Plaid Cymru wedi parhau i gynnig atebion cadarnhaol i helpu i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.
Wrth ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog ar Tata Steel, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Yn gyntaf, rwyf eisiau i’r gweithwyr dur a’u teuluoedd wybod na fydd Plaid Cymru yn troi cefn arnynt – byddwn yn parhau yn blaid fydd yn rhoi atebion cadarnhaol i’r argyfwng presennol.
“O ran ymateb Llywodraeth Lafur Cymru, mae’n siomedig nad oedd y gweithredu y galwodd y Prif Weinidog amdano heddiw yn cynnwys unrhyw symudiadau pendant o’i eiddo ei hun. Does fawr o hyder y bydd Llywodraeth y DG yn rhoi ateb. Rhaid i ni glywed beth yw cynllun Llywodraeth Cymru. Chawson ni mo hynny y prynhawn yma.
“Mae ei lywodraeth yn edrych fwy fel grŵp pwyso ar adeg pan ddylai roi arweiniad strategol.
“Mae Plaid Cymru yn datgan unwaith eto ei safbwynt y dylid cymryd cyfran gyhoeddus yn y diwydiant yn awr i gael y diwydiant trwy’r storm bresennol ac i ddiogelu swyddi a chymunedau. Rhaid i ni i gyd dynnu gyda’n gilydd er mwyn sicrhau bod gan y diwydiant hollbwysig hwn ddyfodol.”