Mwy o Newyddion
Canlyniadau Gwylio Adar yr Ardd RSPB Cymru
Gaeaf mwyn yn hybu gweld adar bach yr ardd
- Ar ôl mwynhau gaeaf mwyn, mae’r titw cynffon-hir yn hedfan i mewn i’r deg uchaf o’r adar a welwyd.
- Aderyn y to sy’n parhau i fod â’r safle uchaf ar restr Gwylio Adar yr Ardd yng Nghymru, gyda’r titw tomos las a’r drudwy yn llenwi’r tri safle uchaf.
- Mae mwy na 519,000 o bobl ar draws y DU wedi cymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd RSPB 2016, gan gyfri cymaint â 8,262,662 o adar i gyd.
Ymunodd dros 24,000 o bobl ledled Cymru yn arolwg bywyd gwyllt yr ardd mwyaf y byd, drwy droi eu golygon i’w gerddi i wylio a chyfri bron i 490,000 o adar yn ystod y 37ain Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB – a bod yn dyst i newidiadau diddorol a chyffrous ymhlith ein hadar mwyaf poblogaidd.
Mae’r titw cynffon-hir bychan wedi hedfan i mewn i ddeg uchaf Gwylio Adar yr Ardd, y tro cyntaf ers 8 mlynedd – wedi i’r ffigwr cyfartalog a welwyd yn ymweld â gerddi eleni gynyddu o 46 y cant.
Mae’r rhywogaeth hynod gymdeithasol hon yn debygol o fod wedi elwa ar y misoedd mwyn cyn y digwyddiad yn Ionawr, ac wedi ymddangos mewn dros chwarter o erddi’r rhai oedd yn cymryd rhan.
Mae arbenigwyr yr RSPB yn cysylltu’r cynnydd o weld y titw cynffon-hir, yn ogystal ag adar llai yr ardd fel y titw benddu, gyda’r tywydd mwyn yn ystod y misoedd oedd yn arwain at Gwylio Adar yr Ardd 2016.
Mae adar bychain sy’n bwyta pryfetach fel y titw cynffon-hir yn ymatebol i’r oerfel gan ei bod yn anodd darganfod y bwyd y maen nhw’n ddibynnol arno mewn rhew ac eira, felly mae amodau mwynach yn debygol o fod wedi cyfrannu’n ffafriol at eu graddfa uchel o oroesiad.
Aderyn y to sy’n parhau i fod yr aderyn a welwyd amlaf yng Nghymru, fe’i gwelwyd yn bron i dri chwarter gerddi’r rhai a gymerodd ran. Y titw tomos las a’r ddrudwen sy’n cwblhau’r tri uchaf.
Meddai Dr Daniel Hayhow, Gwyddonydd Cadwraeth RSPB: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych arall i Gwylio Adar yr Ardd yng Nghymru sydd wedi datblygu data gwerthfawr i’n helpu i greu darlun gwell o fywyd adar yr ardd.
“Mae’r cynnydd yn y nifer sy’n gweld yr adar bach hyn yn yr ardd yn amlygu pwysigrwydd darparu bwydwr adar swmpus ar gyfer rhai rhywogaethau.
"Dim ond yn y blynyddoedd diweddar y mae’r titw cynffon-hir wedi dechrau defnyddio bwydwyr gardd, ac erbyn hyn mae mwy a mwy yn eu gweld yn eu gerddi wrth i’r ymddygiad yma ddatblygu.
"Ers 2006 mae nifer cyfartalog y titw cynffon-hir a welwyd mewn gerddi ar draws Cymru wedi cynyddu 36 y cant, a’r nico wedi codi 27 y cant.”
Gall y tywydd gael effaith amrywiol ar grwpiau gwahanol o adar yn nhermau ymddygiad a pha gynefin i’w ddefnyddio. Mae’r cynnydd o weld y titw cynffon-hir, ynghyd ag adar bach yr ardd eraill, yn dangos y gall y rhywogaeth hon oroesi mewn niferoedd llawer mwy heb yr oerfel mawr. Mae’r tymheredd cynhesach wedi’i gwneud hi’n haws dod o hyd i fwyd, fel pryfaid, tasg a oedd yn anodd iawn yn rhew ac eira’r gaeafau blaenorol.
Er gwaetha’r cynnydd yma mewn niferoedd, mae sawl un arall o ffefrynnau’r gerddi yn dioddef. Cafwyd cwymp arall yn y nifer o rywogaethau adnabyddus fel y drudwy a’r fronfraith yn ystod Gwylio Adar yr Ardd eleni. Mae’r cwymp yma yn parhau â’r tueddiad o weld gostyngiad yn nifer ymweliadau gerddi’r ddwy rywogaeth o 81 ac 89 y cant ers y Gwylio Adar yr Ardd cyntaf yn 1979.
Ychwanegodd Eleri Wynne, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru: “Mae nifer o’n hoff adar yr ardd mewn trafferth ac angen ein help yn ddirfawr.
"Mae gerddi a llecynnau awyr agored yn adnodd amhrisiadwy i sawl rhywogaeth – i ddarparu cynefin diogel a digon o fwyd a dŵr i oroesi – sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar eu poblogaeth.”
Mae’r un tueddiadau wedi eu gweld yn y digwyddiad cyfochrog Gwylio Adar yr Ysgol, a wnaeth unwaith eto dorri’r record gyda mwy o ysgolion a phlant yn cymryd rhan nag erioed o’r blaen.
Bu bron i 100,000 disgybl yn treulio awr ym myd natur yn cyfri adar mewn arolwg adar ar draws ysgolion y DU, a bu mwy na 2,000 yn cymryd rhan yng Nghymru.
Y fwyalchen oedd yr ymwelydd maes chwarae mwyaf cyffredin am yr wythfed flynedd yn olynol. Aderyn y to a’r drudwy oedd yn cwblhau’r tri uchaf.
Mae Gwylio Adar yr Ardd a Gwylio Adar yr Ysgol yn rhan o ymgyrch Rhoi Cartref i fyd Natur yr RSPB, a’i nod yw mynd i’r afael â’r argyfwng cartrefi sy’n wynebu bywyd gwyllt y DU.
Mae’r elusen yn gofyn i bobl ddarparu lle ar gyfer bywyd gwyllt yn eu gerddi a llecynnau y tu allan - boed hynny wrth osod blwch nythu i’r adar, creu pwll i lyffantod, neu drwy adeiladu cartrefi i ddraenogod.