Mwy o Newyddion
Dadorchuddio erflun 20 troedfedd o Shirley Bassey yn bloeddio dros Faes Caernarfon o'r castell
- Yr artist Marc Rees yn dadorchuddio cerflun 20 troedfedd o uchder sy'n ymdebygu i'r Fonesig Shirley Bassey fel Buddug, y Frenhines a'r rhyfelwraig Geltaidd
- Dadorchuddir fel galwad i'r gad i lansio penwythnos 'Cer i Greu', rhwng 1-3 Ebrill
- Cefnogir gan BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a What Next?
Heddiw, mae’r artist o Gymru, Marc Rees, wedi dadorchuddio darn cerfluniol newydd a elwir yn ‘Bassey’s Cry/Bloedd Bassey’, sef cerflun aur, 20 troedfedd o uchder sy’n ymdebygu i’r Fonesig Shirley Bassey mewn osgo rhyfelgar tebyg i Buddug, y Frenhines a’r Rhyfelwraig Geltaidd.
Bwriad y cerflun yw galw pobl Cymru a thu hwnt i’r gad er mwyn cymryd rhan yn y penwythnos ‘Cer i Greu’, sy’n dechrau heddiw.
Gan sefyll ar falconi gwydr yn waliau Castell Caernarfon, yn edrych allan dros Wynedd, Gogledd-orllewin Cymru, ‘Bassey’s Cry / Bloedd Bassey’ yw ymateb Rees i’r penwythnos ‘Cer i Greu’, sy’n cael ei gefnogi gan BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a What Next?
Bydd cerflun ‘Bassey’s Cry / Bloedd Bassey’ yn cael ei osod yn yr un man a safodd Brenhines Elizabeth II wrth gyfarch y tyrfaoedd ar ôl arwisgiad Tywysog Cymru ym 1969.
Mae gan y cerflun, sydd wedi’i greu yn debyg i frenhines y gân yng Nghymru, y Fonesig Shirley Bassey, dwll lle dylai ei chalon fod - yn yr un modd ag y mae angen calon ar gorff, mae angen celfyddyd ar gymdeithas i ffynnu.
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i greu eu celf deimladwy eu hunain y penwythnos hwn er mwyn helpu eu cymunedau i wneud yr un fath.
Dywedodd Marc Rees: “Bwriad y cerflun yw sbarduno pobl i fod yn greadigol.
"Mae creadigrwydd a diwylliant yn sicrhau bod lleoedd, nid yn unig yn gweithredu, ond yn ffynnu.
"Celf yw calon ac enaid unrhyw gymuned.
"Felly, mae’n bryd sylweddoli a chydnabod hyn, gan ddod yn rhagweithiol ac yn greadigol.
"Mae’r Fonesig Shirley Bassey yn un o’n heiconau diwylliannol mwyaf. Ni allaf feddwl am unrhyw un gwell i alw pobl i’r gad.”
Mae wedi cymryd cyfanswm o 600 awr i gerfio, gosod gwydr ffibr, llenwi, sandio a phaentio Bloedd Bassey.
Mae wedi’i cherfio o bolystyren â chot galed o wydr ffibr, yna ei llenwi â llenwad a’i sandio’n llyfn. Mae dros 20 troedfedd o uchder ac yn pwyso dros 300 cilogram.
Bydd y cerflun yn cael ei osod yn waliau Castell Caernarfon dros gyfnod y Penwythnos Cer i Greu ac o’r Maes (Sgwâr y Castell) y cewch yr olygfa orau.
Ar 1-3 Ebrill 2016, mae BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a What Next? yn dod ynghyd ar gyfer penwythnos llawn dop i ddathlu creadigrwydd y genedl, gan dynnu sylw at Gymru fel gwlad sy’n gyfoethog o ran ei chelfyddydau a’i diwylliant.
Bydd y cerflun yn cael ei osod gan Wild Creation.
Mae’r cwmni o Gaerdydd yn creu cerfluniau, propiau ac arddangosfeydd ar gyfer bob math o ddiwydiannau, rhaglenni teledu, arddangosfeydd, digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, gan ddefnyddio llu o dalentau o feysydd cerflunio i waith pren.
Yn ddiweddar, mae’r cwmni wedi cyflawni amrywiol brosiectau creadigol ar gyfer cestyll ar draws Cymru, gan gynnwys ‘Y Bêl yn y Wal’ yng Nghastell Caerdydd i lansio Cwpan Rygbi’r Byd 2016, a’r Ddraig, a ymddangosodd yng Nghastell Caerffili ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Bu hefyd yn gyfrifol am greu haid o ddinosoriaid ar gyfer lansio Jurassic World, a rhannau o’r set ar gyfer sioe gerdd y West End, Charlie and the Chocolate Factory.
Am ragor o wybodaeth am y Penwythnos Cer i Greu, ewch i bbc.co.uk/cerigreu