Mwy o Newyddion
-
£3.3 miliwn i adfywio’r hen gei llechi ar lannau’r dŵr yng Nghaernarfon
13 Mai 2016Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi neilltuo ychydig dros £3.3 miliwn i helpu adfywio’r hen gei llechi ar lannau’r dŵr yng Nghaernarfon, a elwir yn Safle’r Ynys, a’i drawsnewid yn gyrchfan siopa ac ymwelwyr fywiog sy’n gweddu i grefftwyr heddiw. Darllen Mwy -
Dewch i’r Drenewydd i weld Gêm y Sêr: Pobol y Cwm v Rownd a Rownd
13 Mai 2016Anghofiwch yr ‘El Clasico’ - mae dau dîm mawr yr operâu sebon Cymraeg yn paratoi i fynd benben a’i gilydd yn y Drenewydd i brofi pa gast o actorion yw’r gorau ar y cae pêl-droed. Darllen Mwy -
Iestyn Jones am helpu carfan pel droed Cymru gyda cân sy'n codi'r ysbryd a tanio'r traed
12 Mai 2016Mae cerddor o ogledd Cymru yn bwriadu codi ysbryd tîm pêl-droed Cymru yr haf yma gydag anthem sy'n rhoi hwb i'w gobeithion yng nghystadleuaeth pêl-droed Ewro 2016. Darllen Mwy -
Cau toiledau cyhoeddus yng Ngwynedd
12 Mai 2016Mae gwaith manwl wedi cael ei gynnal ers mis Mawrth er mwyn sefydlu os oes unrhyw opsiynau eraill i gyllido a chadw toiledau cyhoeddus ar agor a fyddai fel arall yn gorfod cau erbyn Ebrill 2017. Darllen Mwy -
Adolygiad o wasanaeth casglu gwastraff gardd Gwynedd
12 Mai 2016Yr wythnos nesaf bydd Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd yn trafod adolygiad o gasgliadau gwastraff gardd y sir fydd o bosib yn golygu codi tâl am y gwasanaeth a ddarperir bob bythefnos. Darllen Mwy -
Cian Ciarán o Super Furry Animals yn cyflwyno Rhys a Meinir
12 Mai 2016Bydd Cian Ciarán (cynhyrchydd, cyfansoddwr ac aelod o Super Furry Animals) yn cyflwyno premiere byd ei waith cerddorfaol cyntaf, mewn cydweithrediad gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn Neuadd Hoddinott, Caerdydd ddydd Gwener, 4 Tachwedd. Darllen Mwy -
Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd yn galw am bleidlais o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd
12 Mai 2016Mae Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd wedi galw ar bobl i bleidleisio o blaid cadw Cymru a Phrydain yn yr Undeb Ewropeaidd. Darllen Mwy -
Mentrau Iaith yn lansio ymgyrch genedlaethol i ddiolch i Dîm Pêl-droed Cymru am godi proffil y Gymraeg yn rhyngwladol
11 Mai 2016Mae’r Mentrau Iaith, heddiw, yn lansio ymgyrch genedlaethol ‘Y Bêl’ fydd yn galw ar gefnogwyr tîm Pêl-droed Cymru i ddatgan eu cefnogaeth i’r sgwad trwy lofnodi pêl anferth yn eu cymunedau a recordio neges o gefnogaeth i’r tîm. Darllen Mwy -
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ethol Llywydd newydd
11 Mai 2016Etholwyd Elin Jones AC yn Llywydd newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Darllen Mwy -
Is-Ganghellor dros dro â’i fryd ar her y Dyn Haearn
11 Mai 2016Bydd yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yn cymryd rhan yn Her Dyn Haearn Byd Enwog Sir Benfro yn ddiweddarach eleni, gyda'r nod o godi arian ar gyfer y Gronfa Caledi Myfyrwyr a lles myfyrwyr. Darllen Mwy -
Traethau Cymru’n cael 100% yn 2015 – a’r tymor nofio newydd ar fin dechrau
11 Mai 2016Bydd tymor samplu dŵr ymdrochi yn dechrau yn dechrau wythnos nesaf. Darllen Mwy -
Sesiwn galw draw yr Eisteddfod Genedlaethol
10 Mai 2016Gyda llai na thri mis i fynd tan y daw’r Eisteddfod Genedlaethol i Sir Fynwy a’r Cyffiniau, mae’r trefnwyr yn cynnal sesiwn galw draw ar gyfer trigolion lleol er mwyn iddyn nhw gael gwybod mwy am yr Eisteddfod a’r paratoadau olaf dros yr wythnosau nesaf. Darllen Mwy -
Cynllun mabwysiadu llwybr – angen gwirfoddolwyr
10 Mai 2016A fyddech chi’n hoffi mabwysiadu llwybr yn eich ardal a gwirfoddoli i edrych ar ei ôl? Os ydych chi’n cerdded llwybr yn rheolaidd ac yn hoffi gwario amser yn yr awyr agored, mae Cyngor Sir Ceredigion angen eich help chi. Darllen Mwy -
EwrOlwg: Sut mae eraill wedi gweld Cymru
10 Mai 2016Mae arddangosfa gyhoeddus newydd, sydd yn defnyddio ymchwil o Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor, yn edrych ar sut mae ymwelwyr o Ewrop - yn cynnwys fforwyr, twristiaid a ffoaduriaid - wedi edrych ar Gymru ers canol y ddeunawfed ganrif. Darllen Mwy -
Parc Gwyddoniaeth Menai yn ceisio contractwyr lleol ar gyfer adeilad awchus cyntaf
10 Mai 2016Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn cynnal digwyddiad 'cwrdd â'r prynwr' mewn partneriaeth â'r prif gontractwyr, Willmott Dixon, ar 17 Mai. Anogir cyflenwyr lleol i gofrestru a mynychu. Darllen Mwy -
Dathlu ail ddiwrnod rhyngwladol Dylan Thomas gyda digwyddiadau byd-eang
10 Mai 2016Bydd ‘Dydd Dylan’ eleni yr un mwyaf rhyngwladol eto, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal ym mhob cwr o'r byd, yn yr Eidal, Awstralia, a'r Ariannin, yr UDA a’r DU. Darllen Mwy -
Gwylio croesiad y Blaned Mercher yn fyw o Gaerdydd
09 Mai 2016Heddiw caiff y cyhoedd y cyfle i ymuno ag arbenigwyr o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd o flaen yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i gael cipolwg ar ddigwyddiad seryddol prin. Darllen Mwy -
Cymdeithas yr Iaith yn croesawu pleidlais tai Cernyw - tai newydd i bobl leol yn unig
09 Mai 2016Mae caredigion y Gymraeg wedi croesawu pleidlais yng Nghernyw o blaid cynnig i glustnodi tai newydd i bobl leol yn unig, gan ddweud bod y polisi yn enghraifft i Gymru o ran arloesi er lles cymunedau. Darllen Mwy -
Perfformiad rhyfeddol lled-ddargludydd yn chwyldroi maes electroneg hyblyg gyflym iawn
09 Mai 2016Mae deunyddiau electroneg hyblyg ar gyfer rhyngrwyd pethau ar gael erbyn hyn o ganlyniad i dechnoleg newydd a gafodd ei chreu gan gwmni o Ogledd Cymru, SmartKem Ltd, gyda chymorth gwyddonwyr o Brifysgol Bangor. Darllen Mwy -
Dyw'r Cymry 'ddim yn gallu fforddio canser' medd MacMillan
09 Mai 2016Mae dadansoddiad diweddaraf Macmillan yn dangos na fyddai'r teulu cyfartalog yng Nghymru yn gallu fforddio canser, a gallai fod rhaid dod o hyd i gannoedd o bunnoedd y mis. Darllen Mwy