Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mai 2016

Dathlu ail ddiwrnod rhyngwladol Dylan Thomas gyda digwyddiadau byd-eang

Bydd ‘Dydd Dylan’ eleni yr un mwyaf rhyngwladol eto, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal ym mhob cwr o'r byd, yn yr Eidal, Awstralia, a'r Ariannin, yr UDA a’r DU.

Cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas am y tro cyntaf yn 2015 yn dilyn ceisiadau am sefydlu diwrnod cyhoeddus i’r bardd, wedi i’r Ŵyl Dylan Thomas 100 blwyddyn o hyd gael croeso mor frwd gan y cyhoedd. Fe gynhelir Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, neu ‘Dydd Dylan’ fel y caiff ei alw gan lawer, bob blwyddyn ar 14 Mai, y dyddiad y darllenwyd Under Milk Wood am y tro cyntaf ar lwyfan The Poetry Centre yn Efrog Newydd yn 1953.

Trefnir Dydd Dylan gan Llenyddiaeth Cymru a’i ariannu gan Llywodraeth Cymru fel rhan o becyn nawdd tair blynedd. Nod y diwrnod yw dathlu a chodi proffil gwaith Dylan Thomas yng Nghymru ac yn rhyngwladol drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau, adnoddau addysgol ac ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol.

Mae eleni’n cynnwys detholiad cyffrous o weithgareddau ym mhob cwr o’r byd, gan gynnwys yr holl leoliadau allweddol sy’n gysylltiedig â’r bardd: Cei Newydd, Talacharn, Abertawe, Penzance, Rhydychen, Llundain ac Efrog Newydd. Cynhelir digwyddiadau hefyd yr wythnos flaenorol yn ogystal â'r wythnos ganlynol, gyda sawl digwyddiad wedi’u trefnu ym Man Geni Dylan Thomas yn Abertawe; gŵyl benwythnos yn Abergwaun; a dangos y ddrama ‘Caitlin’ yng Nghanolfan Celfyddydau Battersea.

Bydd Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas 2016 yn dechrau am 8.00 am yng Nghei Newydd gyda’r artist tywod Marc Treanor, a fydd yn dyblygu logo newydd Dydd Dylan ar y traeth. Cynlluniwyd y logo gan yr artist o ogledd Cymru Jonathan Edwards.

Am 9.30 am, caiff ap cerdded newydd, ‘Return Journey’, ei lansio yn Abertawe gyda pherfformiad gan Lighthouse Theatre, a fydd yn dechrau ar Sgwâr y Castell ac yn gorffen ym Man Geni Dylan Thomas am 11.15 am.

Yng Nghastell Talacharn, bydd sesiwn adrodd straeon gyda David Pitt a Mark Montinaro am 10.30 pm. Ac, o 11.30 am ymlaen, bydd lansiad arddangosfa yn Boathouse Dylan Thomas gyda cherddoriaeth a geiriau gan Brosiect Sain Dylan Thomas i ddilyn am 2.00 pm, a hefyd digwyddiad gyda’r nos yn y Sied Dun.

Caiff teithiau llenyddol pellach eu cynnal yn Rhydychen, Penzance a Mousehole – lleoliadau sydd â chysylltiadau cryf â Dylan Thomas. Maent yn dechrau yn Oxford Castle Unlocked am 10.00 am; Longboat Hotel, Penzance am 11.00 am; a The Old Coastguard yn Mousehole am 6.00 pm. Mae’r teithiau cerdded hyn yn gyfle gwych i aildroedio llwybrau’r bardd o Gymru a chael hwyl ar hyd y daith.

Ar 14 Mai hefyd fy gynhelir seremoni wobrwyo fawreddog Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2016 mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd y digwyddiad eleni yn dechrau am 1.30 pm yn y Neuadd Fawr ar gampws newydd trawiadol Prifysgol Abertawe, Campws y Bae. Yn ystod y seremoni fe gyhoeddir enillydd y wobr o £30,000 am y gwaith llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn Saesneg gan awdur 39 oed neu iau. Gan fod y Wobr yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed eleni, bydd cyfle i'r cyhoedd brynu tocynnau ar gyfer yr achlysur bythgofiadwy hwn.

Gyda’r nos yn Abertawe’n fe gynnigir llu o ddigwyddiadau, gyda drama, lansiadau a darlleniadau ym Man Geni Dylan Thomas o 5.00 pm ymlaen, a chydweithrediad arbennig rhwng Do Not Go Gentle Festival, Dylan’s Bookstore a Cinema & Co o 8.00 pm ymlaen sy’n cynnwys sgwrs gan arbenigwr ar Dylan Thomas, Jeff Towns, dwy ffilm, perfformiadau barddonol a mwy.

Bydd sawl digwyddiad arlein i sicrhau bod edmygwyr Dylan ym mhob cwr o'r byd yn cael ymuno yn y dathliadau. Bydd wyres Thomas, Hannah Ellis, yn lansio DiscoverDylanThomas.com, y wefan swyddogol am Dylan Thomas ar ran ei deulu a’i ystâd. O Efrog Newydd, bydd yr artist rap enwog, Baba Brinkman, yn ysgrifennu ac yn rhyddhau cerdd rap wreiddiol wedi’i hysbrydoli gan y bardd o Gymru a bydd 92nd Street Y, The Poetry Center yn rhannu fersiwn Michael Sheen o Under Milk Wood, a fydd ar gael ar alw.

Bydd llu o eitemau newydd cysylltiedig â Dylan Thomas i’w gweld hefyd ac maent yn nodwedd bwysig o’r diwrnod. Mae llawysgrifau dadlennol gerddi gan yr awdur o Gymru wedi cael eu prynu gan Brifysgol Abertawe a byddant yn cael eu harddangos i’r cyhoedd am y tro cyntaf rhwng 11.00 am a 3.00 pm yn Llyfrgell y Bae ar Gampws y Bae, campws newydd Prifysgol Abertawe. Yn Llundain, bydd yr Athro John Goodby yn cyflwyno cofiant o deulu’r Tomosiaid gan feddyg teulu o Dalacharn a chopi o lythyr gan Dylan Thomas sydd heb ei gyhoeddi o’r blaen yn y British Library am 3.00 pm.

Yn ddiweddarach fe gynhelir lansiad The Collected Poems of Dylan Thomas (Everyman) gan John Goodby mewn clawr papur yn adeilad enwog y Wheatsheaf Tavern - y dafarn yn Llundain ble cyfarfu Dylan a Caitlin - a bydd yr actores enwog Sian Thomas yn darllen cerddi a rhai darnau o’r cofiant a’r llythyr. Mae digwyddiad pellach yn Llundain yn The Poetry Cafe, Covent Garden, o 7.30 pm ymlaen, gyda barddoniaeth fodern wedi ei ysbrydoli gan y bardd.

Eleni, bydd Cerdd Fawr Dylan, y gerdd a ysgrifennwyd ar y cyd gan bobl ifanc 7-25 oed o bob cwr o’r byd, yn cael ei datgelu arlein yn ystod digwyddiad Megaverse yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd am 3.00 pm gan gyn-Fardd Plant Cymru, Aneirin Karadog.

O’r Ariannin / Patagonia, bydd y British Council yn rhannu fideo newydd o brosiect Under Milk Wood; yn Awstralia, bydd digwyddiadau yn Perth ac yn Sydney; ac yn Turin, yr Eidal, bydd cynhadledd a theyrnged i Dylan Thomas ar 16 Mai.

Yng ngeiriau’r actor Michael Sheen: “Mae profi gwefr drydanol a nwydus geiriau Dylan Thomas yn gwneud unrhyw ddiwrnod yn arbennig. Gwnewch les i’ch enaid a gwnewch yn siŵr bod Mai 14eg yn un ohonyn nhw.”

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Llenyddiaeth Cymru http://www.llenyddiaethcymru.org/dydd-dylan/ a thrwy ddilyn yr hashnodau #DylanDay a #DyddDylan ar gyfryngau cymdeithasol.

Rhannu |