Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Mai 2016

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ethol Llywydd newydd

Etholwyd Elin Jones AC yn Llywydd newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Etholwyd yr Aelod Cynulliad dros Ceredigion  yn ystod Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad newydd yn y Senedd.

Mae gan y Llywydd bwerau a chyfrifoldebau sylweddol sy'n golygu mai'r swydd yw'r un bwysicaf yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r rôl yn dylanwadu ar bob agwedd ar y Cynulliad - o'i weithrediad o ddydd i ddydd a'r drefn arferol ar gyfer rheoli busnes, i'w ddatblygiad fel prif sefydliad democrataidd Cymru, ei safle yng nghyfansoddiad y DU a'i statws yn llygaid y cyhoedd.

Wrth dalu teyrnged i'w rhagflaenydd dywedodd Elin Jones : "Mae'r Fonesig Rosemary Butler wedi bod yn llysgennad ardderchog ar gyfer y Cynulliad dros y pum mlynedd diwethaf.

"Mae hi wedi chwalu'r rhwystrau i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru, yn enwedig ymhlith menywod drwy ei hymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus; i bobl ifanc drwy eu rhoi yn gadarn wrth wraidd busnes y Cynulliad a chreu mwy o gyfleoedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

"Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar ei llwyddiant hi wrth wneud y gwaith yr ydym ni, fel Aelodau'r Cynulliad, yn ei wneud yma yn y Senedd."

Etholwyd Ann Jones AC yn Ddirprwy Lywydd. Mae Ann Jones yn Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd. 

Cefndir personol

Ganed Elin ym 1966 ac fe’i magwyd ar fferm yn Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan. Aeth i Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl derbyn gradd BSc mewn Economeg o Brifysgol Caerdydd, derbyniodd radd MSc mewn Economeg Wledig o Brifysgol Aberystwyth.

Cefndir proffesiynol

Mae Elin wedi gweithio fel Swyddog Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig. Mae hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr gyda Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf.

Bu Elin ar Gyngor Tref Aberystwyth o 1992 tan 1999 a hi oedd Maer ieuengaf Aberystwyth yn nhymor 1997-98. Elin oedd Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru rhwng 2000 a 2002.

Mae Elin yn byw yn Aberystwyth ac yn mwynhau cerddoriaeth, ffilmiau a darllen ac roedd hi hefyd yn aelod o’r grŵp poblogaidd Cwlwm. Mae hefyd yn aelod o gôr ABC Aberystwyth. Yn 2009, enillodd Elin wobr Pencampwr Ffermio Prydain y Farmers Weekly yn ogystal â gwobr Aelod Cynulliad y Flwyddyn.

Cefndir gwleidyddol

Etholwyd Elin i’r Cynulliad ym mis Mai 1999 ac yn ystod tymor cyntaf y Cynulliad hi oedd Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddatblygiad Economaidd. Yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2003, llwyddodd i ddal gafael ar y portffolio hwn tan 2006 pan ddaeth hi’n Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Ar 9 Gorffennaf 2007, ffurfiwyd Llywodraeth Cymru’n Un a phenodwyd Elin yn Weinidog dros Faterion Gwledig.

Rhannu |