Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mai 2016

Dyw'r Cymry 'ddim yn gallu fforddio canser' medd MacMillan

Mae dadansoddiad diweddaraf Macmillan yn dangos na fyddai'r teulu cyfartalog yng Nghymru yn gallu fforddio canser, a gallai fod rhaid dod o hyd i gannoedd o bunnoedd y mis.

Mae Cymorth Canser Macmillan yn cyfrifo fod gan y teulu cyfartalog yng Nghymru tua £490 y mis yn weddill ar ôl talu am bethau angenrheidiol fel biliau, bwyd a theithio bob dydd.

Ond mae ymchwil blaenorol gan yr elusen yn dangos fod canser yn costio £760 y mis ar gyfartaledd i fwyafrif llethol (86%) cleifion canser Cymru!

Rhieni mewn gwaith sydd â phlant ifanc a gaiff eu taro galetaf gan gost ariannol canser.

Mae'r elusen yn rhybuddio y gallai oedolyn sy'n cael diagnosis canser, felly, wneud i'r teulu cyfartalog yng Nghymru fod yn brin o ryw £270 y mis hyd yn oed petaen nhw'n rhoi'r gorau i bob gweithgaredd hamdden ac yn lleihau eu gwario i'r hanfodion. 

Mae Macmillan yn rhybuddio y gallai miloedd o rieni fod yn ymrafael â chost canser yn barod ac mai dim ond gwaethygu mae’r broblem gan y rhagfynegir y bydd bron i hanner y boblogaeth yn dioddef o'r clefyd ar ryw adeg yn ystod eu bywydau erbyn 2020.

Mae'r costau ychwanegol yn cynnwys teithio'n ôl ac ymlaen o apwyntiadau ysbyty; cynnydd i filiau'r cartref oherwydd bod y claf gartref yn fwy ac yn teimlo'r oerfel ar ôl cael triniaeth; a thalu am gymorth ychwanegol gyda help gartref fel cael rhywun i lanhau. Ac mae'n rhaid i lawer o bobl dorri eu horiau gweithio neu roi'r gorau i weithio’n llwyr oherwydd eu bod yn rhy anhwylus, ac o ganlyniad maen nhw'n colli incwm sylweddol.

Mae Macmillan, sy'n cynnig grantiau, cyngor budd-daliadau ac arweiniad ariannol i rai sydd wedi'u heffeithio gan ganser, yn annog pobl i chwilio am help ariannol gyn gynted ag sy'n bosibl fel nad yw pryderon am arian yn mynd allan o reolaeth.

Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod ymchwil blaenorol gan yr elusen yn dangos nad oedd gan dros draean (36%) y rhai oedd â chanser unrhyw syniad y byddai canser yn effeithio arnynt yn ariannol, a bod un ym mhob deg arall (9%) heb sylweddoli faint y byddai'n effeithio arnynt.

Mae'n rhybuddio fel arall y gallai'r teulu cyfartalog orfod troi at gynilion, cardiau credyd, cael benthyciad neu hyd yn oed werthu’r cartref er mwyn gallu cael yr arian sydd ei angen.

Dywed Macmillan fod help ar gael, ond bod angen i bobl wybod y gallant gael cymorth a bod angen iddynt holi amdano cyn i'r problemau ariannol bentyrru.

Astudiaeth Achos

Mae Cath Harding yn 58 ac yn byw ym Mhorthmadog, Gwynedd, a chafodd ddiagnosis canser y rectwm ym mis Ionawr 2015.

"Mi gefais fy llorio'n llwyr. Do’n i ddim yn gallu teimlo dim. Dyna'r peth olaf roeddwn i wedi disgwyl iddyn nhw ei ddweud. Dywedon nhw wrtha i y gallwn i fod i ffwrdd o'r gwaith am hyd at 12 mis. Ac yna mi sylweddolais i. Waw – sut rydw i'n mynd i dalu fy miliau?

"Pan es i'n sâl, cododd fy nghostau hefyd. Roedd yn rhaid i mi brynu bara heb glwten, oedd yn costio £2 y dorth yn lle 35c. Ac mi gododd fy miliau gwresogi oherwydd ro'n i'n teimlo'n oer o hyd.

"Mi ffoniais i arbenigwyr ariannol Macmillan. Mi roddon nhw gymorth defnyddiol iawn i mi. Roedd fel tasai pwysau mawr wedi'i godi. Oni bai am Macmillan, mae'n ddigon posibl y byddwn i wedi gorfod gwerthu fy nhŷ."

Medd Susan Morris, Pennaeth Gwasanaethau Macmillan Cymru: "Yng Nghymru, mae 19,000 o bobl yn cael diagnosis canser bob blwyddyn a rhagfynegir y bydd bron i hanner y boblogaeth yn cael diagnosis canser rywbryd yn ystod eu bywydau erbyn 2020.

"Adeg etholiadau'r Cynulliad yn ddiweddar, galwodd Macmillan Cymru am gynllun canser newydd i'r llywodraeth lle mae pob un sydd wedi'i effeithio gan ganser yn cael cynnig cyngor ariannol mewn da bryd, cyn i unrhyw broblemau ariannol gynyddu.

"Ar adeg pan fydd teuluoedd yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, gall diagnosis canser fod yn ergyd difrifol, a gall achosi problemau ariannol dybryd.

"Pan fyddwch chi'n cael diagnosis canser, y peth olaf y mae angen i chi fod yn poeni amdano yw sut mae talu'r biliau a chadw to uwch eich pen. Ond does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun – mae help yno i chi.

"Yn Macmillan rydyn ni'n cynnig gwybodaeth a chymorth ariannol i helpu pobl i gael eu traed danynt unwaith eto. Y llynedd yng Nghymru helpon ni 2,996 o bobl a oedd wedi'u heffeithio gan ganser i ddatgloi gwerth £13.2m mewn budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddyn nhw oherwydd eu salwch." 

Ni ddylai neb wynebu pryderon ariannol ar ei ben ei hun. I gael cymorth ariannol ac i ddod o hyd i gynghorydd budd-daliadau wyneb yn wyneb lleol ewch i www.macmillan.org.uk/moneyworries neu ffoniwch am ddim ar 0808 808 00 00.

Llun: Cath Harding

Rhannu |