Mwy o Newyddion
Gwylio croesiad y Blaned Mercher yn fyw o Gaerdydd
Heddiw caiff y cyhoedd y cyfle i ymuno ag arbenigwyr o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd o flaen yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i gael cipolwg ar ddigwyddiad seryddol prin.
O hanner dydd ymlaen, bydd y blaned sydd agosaf at yr haul yn ein system solar, y blaned Mercher, yn weladwy ar wyneb yr haul yn ystod digwyddiad sy'n digwydd ddim ond 14 gwaith bob canrif.
Drwy gydol y dydd, bydd y blaned Mercher yn ymddangos fel smotyn bach du ar draws wyneb yr haul wrth i gylchdro'r blaned groesi'n uniongyrchol rhwng y ddaear a'r haul.
Ni fydd modd edrych yn uniongyrchol ar y croesiad, felly bydd staff o'r Brifysgol, Sefydliad Ffiseg Cymru, yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, a Chymdeithas Seryddol Caerdydd yn darparu offer arbenigol i alluogi'r cyhoedd a grwpiau o ysgolion i wylio'n ddiogel.
2006 oedd y tro diwethaf y gwelwyd croesiad y blaned Mercher, ac ni chawn weld hyn eto tan 2019.
Os na fydd y tywydd yn ffafriol, bydd ffrwd o'r croesiad yn cael ei darlledu'n fyw yn yr amgueddfa, a bydd amrywiaeth o weithgareddau yn ymwneud â seryddiaeth yn cael eu cynnal yno hefyd
Dywedodd Dr Chris North o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn annog pawb i ymuno â ni yn yr Amgueddfa Genedlaethol ddydd Llun i wylio'r digwyddiad seryddol prin hwn. P'un a ydych chi'n seryddwr amatur, yn grŵp brwdfrydig o blant, neu am gael gwybod beth yw'r holl ffys, bydd rhywbeth sydd o ddiddordeb i bawb yno.
"Bydd yn hynod ddiddorol gweld y blaned sydd agosaf at yr haul yn ein system solar yn symud ar draws wyneb yr haul, a byddwn wrth law i gynnig arddangosiadau ac esboniadau ynghylch pam yr ydym yn gallu gweld y digwyddiadau hynod hyn."