Mwy o Newyddion
Parc Gwyddoniaeth Menai yn ceisio contractwyr lleol ar gyfer adeilad awchus cyntaf
Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn cynnal digwyddiad 'cwrdd â'r prynwr' mewn partneriaeth â'r prif gontractwyr, Willmott Dixon, ar 17 Mai. Anogir cyflenwyr lleol i gofrestru a mynychu.
Mae cynlluniau yn symud ymlaen ar gyfer M-SParc, y Parc Gwyddoniaeth bwrpasol gyntaf yng Nghymru ac yn eiddo i Brifysgol Bangor.
Yn dilyn y cyhoeddiad y mis diwethaf o'r cynnig tenantiaeth rithwir, mae cwmnïau eisoes wedi cofrestru.
Cyhoeddwyd y prif gontractwyr ar gyfer y prosiect uchelgeisiol, sydd wedi sicrhau buddsoddiad o £10.8 miliwn a gytunwyd gan Lywodraeth Cymru a £10.2 miliwn bellach o Gyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, fel Willmott Dixon.
Fel rhan o'r prosiect, mae M-SParc yn angerddol iawn am ddefnyddio'r gadwyn gyflenwi leol a chefnogi datblygiad sgiliau yn y diwydiant.
I roi cychwyn ar y gwaith hwn, blaenoriaeth gyntaf Willmott Dixon fydd i gynnal digwyddiad 'cwrdd â'r prynwr' ar yr 17eg Mai. Bydd y cyfleoedd busnes yn amrywio o waith brics a gorffeniadau llawr, i lifftiau a ciwbiclau toiled.
Dylai cwmnïau gofrestru o flaen llaw, ac mae gwybodaeth bellach ynghyd â ffurflen cofrestru ar gael yma: http://businesswales.gov.wales/constructionfutureswales/news-and-events/menai-science-park-ltd-m-sparc-willmott-dixon-supply-chain-development-event
Dywedodd Rheolwr y Prosiect Pryderi ap Rhisiart: "Mae hwn yn amser cyffrous i ni, nid yn unig oherwydd bod ein prif gontractwyr yn eu lle, ond hefyd gan ei fod yn rhoi i ni'r cyfle i weithio gyda chwmnïau lleol i adeiladu'r adeilad uchelgeisiol hwn.
"Mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn benderfynol y byddwn yn ei wneud o'r dechrau ac rydym yn edrych ymlaen at ddechrau trafodaethau gyda rhai o'r cwmnïau hynny'r wythnos nesaf.
"Mae trafodaethau hefyd ar y gweill o ran y Budd i'r Gymuned ac uwch-sgilio y gall y prosiect hwn ddarparu."