Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mai 2016

Cian Ciarán o Super Furry Animals yn cyflwyno Rhys a Meinir

Bydd Cian Ciarán (cynhyrchydd, cyfansoddwr ac aelod o Super Furry Animals) yn cyflwyno premiere byd ei waith cerddorfaol cyntaf, mewn cydweithrediad gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn Neuadd Hoddinott, Caerdydd ddydd Gwener, 4 Tachwedd.

Er bod y Furries yn teithio trwy gydol 2016, bydd Cian yn camu ar hyd lôn wahanol a braidd yn anisgwyl am ychydig.

Gyda Rhys a Meinir mae'n troi at fyd cyfansoddi clasurol am y tro cyntaf, gan gyfuno offeryniaeth gyfareddol a'r gair llafar i adrodd hen, hen stori am gariad a thorcalon.

Mae sgôr Rhys a Meinir yn llawn syniadau cerddorol sydd wedi bod ar y gweill gan Cian ers bron i ugain mlynedd – syniadau ac elfennau sonig a ddatblygwyd ganddo ar y lôn rhwng gigs, yn ystod profion sain, yn yr ysbeidiau rhwng recordio mewn stiwdios a thra roedd aelodau'r band ar wasgar yn gweithio ar brosiectau unigol.

Dros y pum mlynedd diwethaf daeth y cyfan at ei gilydd ar ffurf y gwaith hynod yma ar gyfer y gerddorfa lawn (84 cerddor).

Fel rhan o'r cyfanwaith, mae'r bardd cadeiriog, Gruffudd Antur wedi sgwennu fersiwn arbennig o'r chwedl i gydfynd â'r perfformiad.

Ym marddoniaeth ei naratif mae awgrym cynnil bod cymeriad Meinir yn cynrychioli ffawd a dirywiad y Gymraeg. Caiff y stori ei hadrodd yn Gymraeg gan lefarwr unigryw (a ddatgelir yn y dyfodol agos).

Meddai Cian: “Mi glywais i stori Rhys a Meinir am y tro cynta gan fy nhad pan o'n i'n hogyn bach, ym mhentre Nant Gwrtheyrn – lle mae'r cyfan yn digwydd; felly mae'n stori sy'n atseinio'n ddwfn i fi.

"Mae'n stori enbyd o drist, yn drasiedi dwbl - a does dim diweddglo hapus yma.

"Er hynny, mae'n rhan o'n traddodiad a'n diwylliant adrodd straeon ni yng Nghymru – yn rhan o'n hiaith a'n hunaniaeth ni, sydd yn ei dro yn dal i gyfrannu i'r cyfoeth o amrywiaeth sydd yn y byd o'n cwmpas.

"O bryd i'w gilydd yn ystod y perfformiad, bydd yr elfen lafar yn cyfeirio siaradwyr Cymraeg y gynulleidfa at bwyntiau penodol yn natblygiad y stori; ond bydd y gerddoriaeth yn creu a chyfleu naws ac awyrgylch y stori i bawb.

"Dw i wedi trio creu profiad sonig sydd hefyd, gobeithio, yn brofiad hudolus o emosiynol a fydd yn ysgogi'r gynulleidfa i ymgolli yn holl ddrama'r stori serch yma a dychmygu holl ogoniant ei lleoliad."

Yn ôl y stori…yn Nant Gwrtheyrn mae cyfeillgarwch Rhys a Meinir yn blodeuo'n gariad pur. Ond fore eu priodas, er chwilio a chwilio, does dim golwg o Meinir yn unman.

Mae'r dyddiau'n troi'n wythnosau, ac yna'n fisoedd o chwilio a gofid ac anobaith sy'n gyrru Rhys yn orffwyll.

Un noson stormus, â Rhys yn cysgodi dan dderwen, mae mellten yn hollti'r goeden gan ddatgelu sgerbwd mewn ffrog briodas. Yn y fan a'r lle, mae calon Rhys yn torri ac mae'n syrthio'n farw wrth droed ei briodferch.

Meddai Michael Garvey, Cyfarwyddwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC: “Wrth raglennu, rydym yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo gweithiau cerddorfaol newydd, felly rydym wrth ein bodd i ymuno â Cian ar y daith hon.

"Mae hwn yn waith sy'n Gymreig hyd fêr ei esgyrn – yn gyfuniad bendigedig o gerddoriaeth, chwedloniaeth werin a barddoniaeth, ac mae'n gyfle cyffrous i ninnau fel cerddorfa genedlaethol Cymru gael perfformio'r premiere byd.”

I gydfynd â pherfformiad y premiere, mae'r artist Mark James (sydd wedi cyd-weithio'n gyson gyda'r Furries) wedi creu llyfryn cain ac unigryw sy'n cynnwys gwaith celf arbennig, llawysgrif braille a chyfieithiad Saesneg o destun Rhys a Meinir. Nifer cyfyngedig iawn o'r llyfrynau hyn sy'n cael eu cynhyrchu a byddant ar werth ar y noson.

Bwriedir rhyddhau fersiwn sain o'r cynhyrchiad yn 2017.

Ganed Cian Ciarán ym Mangor. Yn ogystal â bod yn aelod o Super Furry Animals (a gynhyrchodd rhai o recordiau mwyaf nodedig yr ugain mlynedd diwethaf - gan gynnwys pedwar albwm a gyrhaeddodd ddeg uchaf y siartiau, 19 o senglau a gyrhaeddodd y '40-uchaf' a'r albwm Gymraeg gyntaf i gyrraedd yr ugain uchaf), mae Cian wedi rhyddhau dau albwm unigol neilltuol hefyd, Outside In (2012) a They Are Nothing Without Us (2013).

Yn 2011, ennillodd Cian a'i frawd Dafydd Ieuan wobr am y 'Gerddoriaeth Wreiddiol Orau' yng Ngwobrau BAFTA Cymru.

Mae'n aelod o Zefur Wolves a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2015.

Mae hefyd wedi cynhyrchu prosiectau cerddoriaeth electronig dan adain Asid Casuals ac wedi cynhyrchu, ail-gymysgu a chyd-weithio gydag amryw o artistiaid gan gynnwys Paul McCartney, Mogwai, Manic Street Preachers a Kaiser Chiefs.

Bydd darllediad byw o'r perfformiad ar BBC Radio Cymru.

Derbyniodd Rhys a Meinir gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a PRS for Music Foundation.

Bydd tocynnau Premiere Byd Rhys a Meinir yn mynd ar werth ganol dydd (12.00) ddydd Iau 5 Mai. Pris: £23. Tocynnau ar gael drwy ffonio 0800 052 1812 - Llinell Gynulleidfa Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Am fwy o wybodaeth ewch i bbc.co.uk/BBCNOW

Rhannu |