Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mai 2016

Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd yn galw am bleidlais o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd

Mae Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd wedi galw ar bobl i bleidleisio o blaid cadw Cymru a Phrydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn cyfarfod o Gyngor llawn Cyngor Gwynedd heddiw pwysleisiodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru, Cyng Dyfed Edwards bod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol er mwyn sicrhau mwy o fuddsoddiad yng Ngwynedd a sicrhau dyfodol cynaliadwy i drigolion y Sir.

Dros y blynyddoedd mae Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus yn denu arian o Ewrop gan dderbyn gwerth £158 miliwn o Gronfa Ariannu Strwythurol Ewropeaidd sy’n rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £300 miliwn yn economi Gwynedd.

Dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd, Dyfed Edwards: “Yn sicr mae arian Ewrop wedi sicrhau mwy o fuddsoddiad yng Ngwynedd ac ein cynorthwyo i sicrhau dyfodol cynaliadwy i drigolion y Sir drwy’r hyn sydd yn sicr wedi bod yn gyfnod heriol i’r economi.

“Yng Ngwynedd rhwng 2007 a 2013 yn unig, bu arian Ewropeaidd yn cynorthwyo 1,475 o fusnesau i dyfu ac ymestyn, cynorthwyo i sefydlu 560 o fusnesau newydd a 2,320 o swyddi newydd. Mae’r cyllid hefyd wedi cynorthwyo 12,000 o bobl Gwynedd i ennill cymwysterau ac wedi cynorthwyo 1,800 o bobl i ddychwelyd i’r gwaith.

“Diolch i gefnogaeth ariannol o Ewrop llwyddwyd i adeiladu Plas Heli, academi hwylio newydd sbon gwerth £9 miliwn. Mae’r ganolfan eisoes yn cynnal digwyddiadau rhyngwladol ac yn croesawu cannoedd o forwyr o ledled y byd gan ddod â budd economaidd a chryfhau’r diwydiant morwrol a’r diwydiant hwylio yng Ngwynedd.

"Cafwyd hefyd gwerth £4.4 miliwn o arian tuag at ail-ddatblygu canol tref Blaenau Ffestiniog a buddsoddiad o dros £6.1 miliwn o bunnoedd ym Mangor a Chaernarfon. Elwodd rhwydwaith drafnidiaeth Gwynedd hefyd gyda buddsoddiad gwerth £20 miliwn drwy gynllun Pont Briwet sydd wedi gwella cysylltiadau yn ardal Meirionnydd.

“Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol byddai Cymru yn cael ei daro’n waeth pe bai’n gadael yr Undeb Ewropeaidd gan fod gwerth allforion o Gymru i’r undeb yn 8% o werth economaidd i’r wlad, yr 2il uchaf ym Mhrydain. Mae Cymru hefyd yn elwa yn net o gyllid yr Undeb Ewropeaidd ond nid oes unrhyw sicrwydd y byddai sefyllfa Cymru’n cael ei warchod pe byddai Prydain yn gadael yr Undeb.”

Ychwanegodd bod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi arwain at ddeddfwriaethau positif a hefyd yn rhoi cyfle i ni gydweithio mwy a dinasyddion eraill: “Rhaid hefyd cofio bod rhai deddfwriaethau Ewropeaidd ym meysydd yr amgylchedd, cydraddoldeb, cyflogaeth ac iechyd wedi cael effaith positif ar ansawdd bywyd trigolion Gwynedd a bod manteision diogelwch o gydweithio ar draws ffiniau ac yn rhyngwladol,” meddai’r Cyng. Edwards.

“Wrth i’r byd fynd yn llai, wrth i mi weld mwy o anghyfartaledd yn y byd a bygythiadau newyn, cynhesu byd eang a rhyfel yn cynyddu, credaf fod angen cymuned o wledydd Ewropeaidd i gydweithio ac ymdrechu i ymateb i’r sefyllfaoedd hyn. Anogaf bawb felly i bleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.”

Rhannu |