Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mai 2016

Cau toiledau cyhoeddus yng Ngwynedd

Yn ystod hydref 2015, cynhaliodd Cyngor Gwynedd ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr lle wnaeth dros 2,000 o drigolion a chyrff ddweud eu dweud ar gyfres o doriadau posib i wasanaethau fyddai angen eu gweithredu er mwyn pontio’r diffyg ariannol sy’n wynebu’r awdurdod.

Roedd hyn yn cynnwys cynnig fod y Cyngor yn rhoi’r gorau i gynnal 50 allan o 73 doiledau cyhoeddus yn y dyfodol.

Yn dilyn y broses ymgynghori gyhoeddus, mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo cyfres o doriadau i wasanaethau a oedd yn cynnwys y cynnig toiledau cyhoeddus fel toriad i’w weithredu.

Mae’r cyngor wedi nodi yn glir mai’r opsiwn y byddai’n ffafrio fyddai i osgoi cau toiledau lle bynnag mae hynny’n bosib. Oherwydd hyn, mae gwaith manwl wedi cael ei gynnal ers mis Mawrth er mwyn sefydlu os oes unrhyw opsiynau eraill i gyllido a chadw toiledau cyhoeddus ar agor a fyddai fel arall yn gorfod cau erbyn Ebrill 2017.

Bydd adroddiad yn amlinellu trefniadau amgen i gynnal toiledau a fyddai fel arall yn gorfod cau yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor ar 19 Mai. Mae’r opsiynau yma yn cynnwys gwahodd Cynghorau Tref a Chymuned i gyfrannu tuag at gost cynnal y cyfleusterau ac o bosib trosglwyddo cyfrifoldeb am y cyfleusterau iddynt yn y dyfodol.

Byddai partneru gyda Chynghorau Tref/Cymuned neu bartneriaid eraill yn cynnig y manteision canlynol:

  •  y posibilrwydd o gadw toiledau yn agored a fyddai fel arall yn gorfod cau;
  • rhoi cyfle i’r cymunedau lleol ddatblygu trefniadau tymor-hir amgen posib sy’n cwrdd â’u hanghenion;
  • cynnig cyfle i sefydliadau partner i ddenu cyllid allanol i wella neu addasu’r cyfleusterau yn eu hardal.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Amgylchedd: “Yng nghyfarfod y Cyngor llawn ym mis Mawrth, fe wnaeth cynghorwyr benderfyniad anodd iawn i dorri nifer helaeth o wasanaethau er mwyn pontio’r diffyg ariannol a wynebai’r awdurdod.

“Tra bod cynghorwyr wedi penderfynu na all Cyngor Gwynedd fforddio i barhau i gynnal 73 o doiledau cyhoeddus, rydym yn parhau i ymdrechu hyd eithaf ein gallu er mwyn adnabod posibiliadau amgen i’r toriadau.  

“Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu posibiliadau amgen, ac os yw’r cynghorwyr yn cefnogi’r cynigion byddwn yn cychwyn ar drafodaeth fanwl yn syth gyda phartneriaid posib a allai fod mewn sefyllfa i weithio gyda ni er mwyn cynnal cyfleusterau yn eu hardal.

“Os bydd y cynnig hwn yn cael ei gefnogi gan Bwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor, ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ar ddyfodol unrhyw gyfleusterau toiled unigol nes bod trafodaethau gyda phartneriaid posib wedi’u cwblhau.”

Llun: Mewn protest yn erbyn y toriadau mae bwcedi ' toiledau argyfwng' wedi cael eu gadael ar gylchfannau ar draws y sir

Rhannu |