Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Mai 2016

Mentrau Iaith yn lansio ymgyrch genedlaethol i ddiolch i Dîm Pêl-droed Cymru am godi proffil y Gymraeg yn rhyngwladol

Mae’r Mentrau Iaith, heddiw, yn lansio ymgyrch genedlaethol ‘Y Bêl’ fydd yn galw ar gefnogwyr tîm Pêl-droed Cymru i ddatgan eu cefnogaeth i’r sgwad trwy lofnodi pêl anferth yn eu cymunedau a recordio neges o gefnogaeth i’r tîm.

Bydd y negeseuon yn ogystal â’r peli anferth yn cael eu rhannu a’u cyflwyno i’r tîm i ddiolch iddynt am godi proffil y Gymraeg yn rhyngwladol ac am lwyddo i gyrraedd pencampwriaeth Ewro 2016.

Dywedodd Adam Jones, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, Mentrau Iaith Cymru: “Mae’r Mentrau Iaith, yn fudiadau sy’n gweithio yn ein cymunedau, a’n bwriad trwy lansio’r ymgyrch hon yw codi proffil gwaith y Mentrau i gynulleidfa ehangach trwy ddiolch i’r FAW am eu hymrwymiad i’r Gymraeg yn ogystal ag annog mwy o bobl i droi at y Gymraeg wrth gefnogi’r bois.

"Rydym dros y misoedd diwethaf, wedi gweld cryn dipyn o amlygrwydd yn cael ei roi i’r Gymraeg, boed ar grysau chwaraewyr, ar ddeunydd hyrwyddo’r FAW neu mewn cyfweliadau yn dilyn gemau rhyngwladol.

“Mae hyn oll yn help wrth godi proffil ac ymwybyddiaeth y Gymraeg, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd, a thrwy lansio’r ymgyrch hon, hoffwn ddiolch i’r tîm ac i’r FAW am sbarduno hyder a balchder pobl yn eu Cymreictod yn ogystal â galw ar siaradwyr Cymraeg ym mhob cwr o Gymru, i gefnogi eu tîm cenedlaethol yn Gymraeg.”

Bydd 23 pêl yn crwydro Cymru dros yr wythnosau nesaf a bydd negeseuon a fideos yn cael eu rhannu ar Facebook ac ar Twitter ac mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru.

Yn ogystal, byddwn yn galw ar gefnogwyr i basio’r ‘bale’ ymlaen i’r person nesaf, a hyn yn symbolaidd o bwysigrwydd trosglwyddo’r Gymraeg i eraill, er mwyn sicrhau ei dyfodol.

Un sy’n gyffrous am yr ymgyrch, ac sydd wedi chwarae rôl flaenllaw wrth hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg dros y blynyddoedd yw’r cyn-chwaraewr a’r gôl-geidwad rhyngwladol, Dai Davies.

Meddai: “Mae gweld Cymru, am y tro cyntaf ers cyfnod hir iawn, mewn pencampwriaeth ryngwladol yn rhywbeth i bob un ohonom ddathlu.

“Fel Cymry, mae dathlu llwyddiant, yn enwedig yn y maes pêl-droed yn brofiad diarth iawn, ond y tro hwn, mae gennym gyfle go iawn i godi statws Cymru’n rhyngwladol a thrwy hynny, codi hyder a balchder pobl yn y Gymraeg.

“Fel chwaraewr pêl-droed, a fel sylwebydd, mae’r gallu i siarad Cymraeg wedi bod yn fanteisiol iawn i mi yn ystod fy ngyrfa.

“Rwyf wrth fy modd, yn gallu cefnogi ymgyrch y Mentrau Iaith i gasglu cefnogaeth i’r tîm, a hoffwn alw ar bawb i ymuno yn y dathlu, cefnogi Cymru a chefnogi’r Gymraeg.”

Os hoffech chi gymryd rhan a dangos eich cefnogaeth i’r tîm cenedlaethol, cysylltwch â’ch menter iaith leol i glywed mwy www.mentrauiaith.cymru.

I ddilyn hynt a helynt y peli a’r negeseuon o gefnogaeth, cofiwch ddilyn #DiolchCymru #CmonCymru 

Rhannu |