Mwy o Newyddion
Sesiwn galw draw yr Eisteddfod Genedlaethol
Gyda llai na thri mis i fynd tan y daw’r Eisteddfod Genedlaethol i Sir Fynwy a’r Cyffiniau, mae’r trefnwyr yn cynnal sesiwn galw draw ar gyfer trigolion lleol er mwyn iddyn nhw gael gwybod mwy am yr Eisteddfod a’r paratoadau olaf dros yr wythnosau nesaf.
Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty’r King’s Arms, Y Fenni, sy’n agos iawn at y Maes ei hun, ddydd Mercher 18 Mai o 16.00 tan 19.00. Mae croeso cynnes i bawb.
Bwriad y sesiwn yw rhoi cyfle i drafod y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod, gan gynnwys y Maes cyn ac yn ystod yr wythnos, lleoliad y meysydd parcio a’r system drafnidiaeth ac unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud gyda chyrraedd y Maes, ynghyd â chael clywed am gynlluniau’r Eisteddfod wrth i ni weithio ar y trefniadau olaf ar gyfer yr wythnos.
Bydd elfennau o’r Eisteddfod yn cael eu rhannu dros wahanol safleoedd yn yr ardal. Lleolir y prif Faes ar Ddolydd y Castell. Dyma le y lleolir y Pafiliwn, sy’n gartref i'r rhan fwyaf o'r cystadlaethau a'r cyngherddau.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: “Y sesiwn galw draw yw’r cyfle i ddod atom am sgwrs anffurfiol i weld beth yn union yw’r Eisteddfod, beth yw’r trefniadau’n lleol, a sut y gallwn gydweithio dros yr wythnosau nesaf.
“Bydd cyfle hefyd i’r rheiny sy’n gweithio yn y sector lletygarwch a thwristiaeth alw draw i gael clywed mwy am sut y gallwn weithio gyda’n gilydd, er mwyn ceisio sicrhau eich bod yn elwa o’r miloedd o ymwelwyr a fydd yn dod i’r ardal yn sgil yr Eisteddfod.
“Yn ogystal, bydd gwybodaeth ar gael am yr wythnos ei hun, gan gynnwys y gweithgareddau’n ystod y dydd a’r cyngherddau gyda’r nos.
"Byddwn hefyd yn hyrwyddo ein cynllun gwirfoddoli, sy’n cynnwys cyfleoedd cyn, yn ystod ac ar ôl yr ŵyl.”
Cynhelir yr Eisteddfod ar dir Dolydd y Castell, Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.