Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mai 2016

Adolygiad o wasanaeth casglu gwastraff gardd Gwynedd

Yr wythnos nesaf bydd Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd yn trafod adolygiad o gasgliadau gwastraff gardd y sir fydd o bosib yn golygu codi tâl am y gwasanaeth a ddarperir bob bythefnos.

Gyda naw awdurdod yng Nghymru eisoes yn codi am gasglu gwastraff gardd, mae Gwynedd bellach yn ystyried codi ffi fel rhan o’r ymdrechion i amddiffyn gwasanaethau lleol hanfodol rhag gorfod cael eu torri wrth i’r Cyngor ymateb i ddiffyg ariannol enfawr.

Mae’r Cyngor yn rhagweld y byddai cyflwyno ffi o rhwng £30 a £33 ar gyfer y gwasanaeth anstatudol hwn yn arwain at ostyngiad o oddeutu £750,000 yn y toriadau y byddai’n rhaid i’r Cyngor eu gweithredu fel arall.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd; “Yn unol â ‘Glasbrint Casglu’ Llywodraeth Cymru, mae naw cyngor arall yng Nghymru eisoes wedi cyflwyno ffi am gasglu gwastraff gardd fel modd o annog trigolion i gompostio eu gwastraff gardd.

“Ni ddaw unrhyw bleser o gynnig fod Gwynedd yn dilyn yr un trywydd, ond mae’r toriadau enfawr yn yr arian yr ydym yn ei dderbyn gan lywodraeth ganolog yn golygu nad oes gennym unrhyw ddewis ond ystyried y fath gamau os ydym am barhau i flaenoriaethu gwasanaethau hanfodol megis gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn.

“Os bydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo, mae disgwyl y byddai gan breswylwyr y dewis i brynu gwasanaeth am ffi rhwng £30 a £33 y flwyddyn. Byddai hyn gyfystyr â thalu rhwng £1.30 a £1.67 fesul casgliad, gan ddibynnu os byddai’r gwasanaeth newydd yn cael ei weithredu dros naw mis neu 12 mis y flwyddyn.”

Bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor ar 19 Mai. Bydd argymhellion terfynol wedyn yn cael eu rhoi gerbron Cabinet y Cyngor ar 7 Mehefin.

Os bydd y cynllun yn cael ei gymeradwyo, bydd disgwyl cyflwyno’r newidiadau o fis Ionawr 2017 ymlaen a byddai cynlluniau yn cael eu rhoi ar waith cyn hynny i godi ymwybyddiaeth o’r trefniadau newydd ymysg trigolion y sir.

Rhannu |