Mwy o Newyddion
Perfformiad rhyfeddol lled-ddargludydd yn chwyldroi maes electroneg hyblyg gyflym iawn
Mae deunyddiau electroneg hyblyg ar gyfer rhyngrwyd pethau ar gael erbyn hyn o ganlyniad i dechnoleg newydd a gafodd ei chreu gan gwmni o Ogledd Cymru, SmartKem Ltd, gyda chymorth gwyddonwyr o Brifysgol Bangor.
Mae gwyddonwyr yn yr Ysgol Peirianneg Electronig wedi bod yn profi deunydd lled-ddargludydd SmartKem, truFLEX®, ac wedi dangos sut mae gweithredu mewn ffurf electronig ar yr amleddau sydd eu hangen i wireddu gwneud deunyddiau electroneg hyblyg cyflym iawn. Mae hyn yn agor y drws i ystod eang o bosibiliadau yn y maes hwn.
Mae’r cyflymder gweithredu newydd hwn a welir yn neunyddiau electroneg truFLEX® yn golygu y byddwn yn fuan yn gweld deunyddiau electroneg hyblyg ar gyfer labelau RFID neu NFC a sensorau yn dod yn gyffredin iawn.
Ychwanegodd Dr Mike Cowin, pennaeth marchnata strategol yn SmartKem: “Os gwireddir cymhwyso hyn at nwyddau defnyddwyr sy’n symud yn gyflym (FMCGs), yn fuan gellwch fynd i’ch archfarchnad leol, llenwi eich troli siopa a cherdded allan o’r siop – bydd yr holl nwyddau’n cael eu sganio gan RF yn y troli wrth i chi gerdded allan a chymerir tâl yn awtomatig drwy eich ffôn clyfar neu eich wats glyfar.”
Meddai’r Athro Martin Taylor o’r Ysgol Peirianneg Electronig: “Fe wnaeth cysylltiad Prifysgol Bangor â’r project cyffrous yma ddechrau rhyw bum mlynedd yn ôl pan wnaethom ymuno fel partneriaid ar broject ymchwil a gefnogwyd gan Gynulliad Cymru ac Innovate UK (y Bwrdd Strategaeth Technoleg gynt).
"Gan ddefnyddio ein cyfleusterau arbenigol fe wnaethom lunio’r amodau prosesu gorau i gynhyrchu transistorau organig perfformiad uchel. Defnyddiwyd y canlyniadau gan SmartKem i gefnogi nifer o gymwysiadau patent.”
“”Mae’r rhain yn adegau cyffrous,” meddai Steve Kelly, Prif Swyddog Gweithredol a sefydlydd SmartKem. “Mae hwn yn ganlyniad gwych ac yn tystio i’n harbenigedd ym maes deunyddiau a thransistorau.
"Mae cymorth Bangor ar y project yma wedi bod yn hanfodol a heb eu harbenigedd ni fyddem wedi llwyddo i gael canlyniad mor rhagorol.”