Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mai 2016

Dewch i’r Drenewydd i weld Gêm y Sêr: Pobol y Cwm v Rownd a Rownd

Anghofiwch yr ‘El Clasico’ - mae dau dîm mawr yr operâu sebon Cymraeg yn paratoi i fynd benben a’i gilydd yn y Drenewydd i brofi pa gast o actorion yw’r gorau ar y cae pêl-droed.

I ddathlu ymddangosiad tîm Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2016 fis nesaf, mae sêr y ddwy raglen boblogaidd wedi ffurfio timau cymysg o ferched a dynion i herio’i gilydd yn Gêm y Sêr: Pobol y Cwm v Rownd a Rownd ym Mharc Latham ddydd Sul, 22 Mai, cic gyntaf 3.30pm.

Ac mae croeso i’r cyhoedd fynychu’r gemau ym Mharc Latham, y Drenewydd yn rhad ac am ddim.

Fe fydd modd cael y newyddion diweddaraf am y timau a’r paratoadau ar s4c.cymru ac ar gyfrifon Trydar a Facebook y ddwy raglen.

S4C sy’n trefnu’r digwyddiad gyda chydweithrediad cwmnïau cynhyrchu’r ddwy gyfres BBC Cymru (Pobol y Cwm) a Rondo Media (Rownd a Rownd) ac mae’n rhan o weithgareddau a rhaglenni i gyd-fynd gyda darllediadau byw S4C o gemau Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016.

Bydd brwydr fawr y sêr sebon yn rhan o ddiwrnod o bêl-droed ym Mharc Latham, gan y bydd pedwar tîm o rieni o gyfres S4C Codi Gôl yn chwarae ar y cae 3G, o 12.00 canol dydd.

Fel rhan o weithgaredd S4C yn ystod cystadleuaeth Ewro 2016, mae’r sianel yn codi arian at yr elusen Street Football Wales. Fe fydd S4C yn cynnal raffl arbennig yn ystod y gêm i gefnogi’r elusen sy’n helpu pobl ddigartref ac wedi’i eithrio gan gymdeithas trwy bêl-droed.

Meddai Jane Felix Richards, Pennaeth Hyrwyddo a Marchnata S4C: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y gêm sêr sebon sy’n rhan o ddiwrnod o bêl-droed a hwyl o’r Drenewydd. Mae’n achlysur hanesyddol gan nad yw’r ddwy gyfres sebon boblogaidd erioed wedi herio ei gilydd ar y cae pêl-droed. Rydym yn ddiolchgar iawn i gast a chriw’r ddwy gyfres ac i glwb pêl-droed Y Drenewydd am wneud y cyfan yn bosibl.”    

Roedd rhai o gymeriadau’r ddwy gyfres a’r actorion sydd yn eu chwarae wedi eu cyffroi’n lân hefyd.

Dywedodd Dai ‘Marino’ Ashurst, capten a hyfforddwr tîm Pobol y Cwm, sy’n cael ei bortreadu gan yr actor Emyr Wyn: “Ar ôl wythnosau o ddod i dermau nad 15 dyn sydd ar y cae chwarae, mae Cwmderi RFC (sori AFC) bellach wedi cyrraedd stêj dau o'u paratoadau - sef peidio â gafael yn y bêl!

"Ond, fe fyddwn yn barod i wynebu'r her ac yn edrych ‘mhlân at redeg cylchoedd oboiti tîm Rownd a Rownd.”

Dywedodd Philip Parry, capten tîm Rownd a Rownd, sy’n cael ei bortreadu gan Maldwyn John: “Fel dywedodd fy nghyd actor, Eric Cantona - ‘Pan fydd y gwylanod yn dilyn y dreill-long, mae oherwydd eu bod yn credu y bydd sardinau yn cael eu taflu i mewn i'r môr.”

Bydd yna gyffro mawr hefyd ymhlith pedwar tîm o rieni’r gyfres deledu Codi Gôl. Ar Barc Latham, byddan nhw’n herio ei gilydd gan gynrychioli'r clybiau ieuenctid mae eu plant yn chwarae iddyn nhw, sef Pwllheli, Amlwch, Ffostrasol a Rhydaman.

Dros y misoedd diwethaf, mae camerâu cwmni teledu Boom Cymru, cynhyrchwyr cyfres Codi Gôl wedi dilyn y pedwar tîm wrth iddynt gael eu hyfforddi gan bedwar arwr pêl-droed Cymru.

Bydd y pedwar hyfforddwr adnabyddus - sef Malcolm Allen (Pwllheli), Owain Tudur Jones (Amlwch), Iwan Roberts (Ffostrasol) a John Hartson (Rhydaman) - yn ceisio arwain eu timau i ennill y gystadleuaeth, gan  obeithio sicrhau gwobr fythgofiadwy i’w tîm; trip i Ffrainc yn ystod yr Ewros i chwarae yn erbyn tîm o rieni yn Llydaw.

 

Am ddiweddariadau o’r gêm fawr ar y diwrnod, hoffwch facebook.com/rowndarownd/ a www.facebook.com/pobolycwm/ ar Facebook, neu dilynwch @rowndarownd neu @BBCPobolyCwm ar Trydar.

Rhannu |