Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mai 2016

Cynllun mabwysiadu llwybr – angen gwirfoddolwyr

A fyddech chi’n hoffi mabwysiadu llwybr yn eich ardal a gwirfoddoli i edrych ar ei ôl? Os ydych chi’n cerdded llwybr yn rheolaidd ac yn hoffi gwario amser yn yr awyr agored, mae Cyngor Sir Ceredigion angen eich help chi.

Mae'r cyngor yn lansio Cynllun Mabwysiadau Llwybr yn y sir, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth, defnydd a mwynhad y cyhoedd o’r rhwydwaith llwybrau yn y sir. Ariannir y cynllun gan Cynllun Gwella Hawliau a Tramwy Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyngor am glywed oddi wrth trigolion sydd yn cerdded neu yn seiclo ar y llwybrau yn rheolaidd, fel bod unrhyw broblemau neu rhwystrau yn cael eu hadrodd, ac hefyd i helpu efo gwaith cynnal a chadw fel torri llystyfiant i gadw’r llwybrau yn hygyrch i ddefnyddwyr eraill.

Dywedodd  Russell Hughes-Pickering, sydd yn Bennaeth yr Economi a Pherfformiad yng Nghyngor Sir Ceredigion: “Yn ogystal a hyrwyddo’r llwybrau i gerddwyr, seiclwyr a merlotwyr, gobeithir y bydd y cynllun yn creu diddordeb lleol i edrych ar ôl y llwybrau, ac yn datblygu synnwyr o berchnogaeth ymysg y rheiny sydd yn eu defnyddio ac yn eu mwynhau.”

Os oes gyda chi amser sbâr ac eich bod awydd ein helpu i arolygu’r llwybrau a helpu gyda gwaith cynnal a chadw, byddem yn falch i glywed gennych chi. Ffoniwch Eifion Jones, Swyddog Llwybrau Cyhoeddus ar  01545 572 315 neu e-bostiwch Eifion.Jones@ceredigion.gov.uk

 

Rhannu |