Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Mai 2016

Traethau Cymru’n cael 100% yn 2015 – a’r tymor nofio newydd ar fin dechrau

Bydd tymor samplu dŵr ymdrochi yn dechrau yn dechrau wythnos nesaf.

Drwy’r haf, bydd staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn samplu a chasglu gwybodaeth ar yr ansawdd dŵr a geir yn y dyfroedd ymdrochi ledled Cymru. Byddant yn ymweld â phob un o’r 103 o’r dyfroedd ymdrochi rhwng  15 Mai a 30 Medi.

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am ansawdd dŵr y môr ar eich traeth lleol ar http://environment.data.gov.uk/wales/bathing-waters/profiles/index.html?lang=cy

Yn 2015,lLlwyddodd 82 o’r traethau nofio yng Nghymru i gael y dosbarthiad uchaf, sef rhagorol gyda 16 yn dda a 4 yn foddhaol.

Ni ddynodwyd yr un traeth ymdrochi yn wael yng Nghymru.

Am y tro cyntaf erioed, bydd cofnodion dŵr nofio yma yn cael eu cyhoeddi ar ffurf ystadegau swyddogol.

Meddai Natalie Hall, Rheolwr Dŵr CNC: “Mae gwyliau ar lan y môr neu ddiwrnod ar y traeth yn rhai o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd y bydd llawer o deuluoedd yn eu gwneud.

“Yr her i ni nawr yw cynnal y safon hon, a byddwn ni’n dal ati i weithio’n galed gyda’n partneriaid i warchod a gwella ein cyfoeth naturiol, ac i sicrhau fod ansawdd ein dŵr yn aros yn uchel.

Yn dilyn dadansoddiad trylwyr o drefn brofi newydd, byddwn yn lleihau y nifer o weithiau yn ymweld â thraethau dros yr haf.

"Byddwn ni’n profi dŵr ymdrochi 12 gwaith ar hyd y tymor – unwaith bob ryw 10 diwrnod fydd hynny.

"Bydd hyn yn dal i roi dealltwriaeth dda i ni o ansawdd ein dŵr ac mae’n llawer uwch na’r gofynion sylfaenol a osodir gan yr Undeb Ewropeaidd.

“Byddwn ni’n parhau i weithio gyda chwmnïau dŵr, busnesau, ffermwyr, awdurdodau lleol a phobl sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â glannau-môr er mwyn iddyn nhw ein helpu i gynnal safonau dŵr.”

Rhannu |