Mwy o Newyddion
£3.3 miliwn i adfywio’r hen gei llechi ar lannau’r dŵr yng Nghaernarfon
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi neilltuo ychydig dros £3.3 miliwn i helpu adfywio’r hen gei llechi ar lannau’r dŵr yng Nghaernarfon, a elwir yn Safle’r Ynys, a’i drawsnewid yn gyrchfan siopa ac ymwelwyr fywiog sy’n gweddu i grefftwyr heddiw.
Ariennir y prosiect o dan y rhaglen Menter Treftadaeth - sefydlwyd yn unswydd i gefnogi twf economaidd trwy fuddsoddi mewn adeiladau hanesyddol segur a’u gwneud yn addas i’w hail-ddefnyddio eto. Drwy weithio gyda sefydliadau nid-am-elw mae Menter Treftadaeth hefyd yn annog buddsoddiad sector preifat yn ogystal â galluogi denu cyllid ychwanegol o lywodraeth ac awdurdodau lleol.
Roedd y Farwnes Kay Andrews, sydd newydd gael ei phenodi’n Ymddiriedolydd Prydain ac yn Gadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, wrth ei bodd o weld y cynlluniau yn ystod ymweliad diweddar: “Mae’n treftadaeth yn ased gwych ac yn barod rwy’n gallu gweld fod arian y Loteri Genedlaethol yn medru gwneud gwahaniaeth real i bobl, llefydd a chymunedau.
“Serch hynny, yn yr hinsawdd bresennol sydd yn heriol yn ariannol, mae’n mynd yn bwysicach darganfod ffyrdd arloesol i gynnal ein treftadaeth. Dyna pam ein bod yn cyflwyno dulliau newydd megis Menter Treftadaeth, rhaglen grant all fod yn chwa o awyr iach i’r adeiladau hanesyddol bendigedig yma yng nghalon Caernarfon, sydd yn bartneriaeth bwerus rhwng arian Treftadaeth a buddsoddiad masnachol.
“Mae’r prosiect uchelgeisiol hwn ar gyfer y lleoliad eiconig yma yn enghraifft berffaith o sut all ein gorffennol helpu i fod yn gatalydd economaidd ar gyfer y presennol, yn creu swyddi newydd, mwy o ymwelwyr ac ymdeimlad o falchder i’r bobl hynny sydd â Chaernarfon yn gartref iddynt.”
Bragwyr, baristas a bara
Bydd cyfres o siopau a llecynnau ar gyfer dylunwyr bychain, artisan yn cydweddu â llety ymwelwyr hanesyddol ac unigryw fel rhan o ‘lecyn artisan’, gan ddathlu pwrpas hanesyddol y safle yn ganolfan gweithgynhyrchu ar raddfa fawr diolch i’r cei llechi a’r gwaith haearn a fu unwaith yn elfennau mor ganolog o ardal glannau’r dŵr.
Mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth yr Harbwr, Ioan Thomas, yn esbonio ei weledigaeth ar gyfer y safle: “Lle ar un adeg y cawsai llechi eu dadlwytho cyn cael eu danfon i bedwar ban byd ar gyfer toi tai, ac y cawsai haearn ei yrru cyn cael ei ddefnyddio mewn adeiladau hanesyddol fel Tŵr Llundain ac Abaty Westminster gan Weithiau Haearn Brunswick, erbyn hyn gall glannau’r dŵr Caernarfon fod yn gartref eto i grefftwyr Cymreig yr 21ain ganrif.
“Erbyn hyn mae cynhyrchwyr bwyd a diod, micro-fragwyr, pobwyr gwlad ac artistiaid lleol yn helpu ffurfio Cymru yn y ffordd y gwnaeth gweithwyr haearn a llechi ar un adeg – ac rydym eisiau chwarae ein rhan yn gofalu fod ganddynt leoliad ffyniannus, wedi’i adfywio i wneud hynny ynddo.
"Diolch i arian gan y Loteri Genedlaethol rydym yn bwriadu creu canolfan ddeinamig ar gyfer gweithwyr heddiw yn ogystal â chyrchfan ymwelwyr fywiog a chyffrous.
“Mae glannau’r dŵr yn denu nifer cyson o ymwelwyr diolch i Gastell Caernarfon ar y naill ochr, a Rheilffordd Eryri ar yr ochr arall – ac felly bydd siopau artisan, preswylfeydd artistiaid a llecynnau cymunedol yn olynwyr delfrydol i’r adeiladau diwydiannol segur sydd ar y safle ar hyn o bryd, a bydd yn helpu gwau Caernarfon fodern gyda’i threftadaeth ddiwydiannol.”