Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mai 2016

Iestyn Jones am helpu carfan pel droed Cymru gyda cân sy'n codi'r ysbryd a tanio'r traed

Mae cerddor o ogledd Cymru yn bwriadu codi ysbryd tîm pêl-droed Cymru yr haf yma gydag anthem sy'n rhoi hwb i'w gobeithion yng nghystadleuaeth pêl-droed Ewro 2016.

Eleni bydd Cymru yn chwarae yn ei twrnament mawr cyntaf er 1958 ac mae Iestyn
Jones, o Ganllwyd ger Dolgellau, am nodi'r achlysur gyda chân newydd i'w
floeddio gan gefnogwyr Cymru ar draws Ewrop.

Mae Iestyn, canwr gyda'r band Rebownder, wedi casglu ciwed o sêr Cymru at ei gilydd o dan yr enw Y Sybs i recordio y sengl Mint Sôs ar ôl gwylio Cymru'n ennill ei lle yn y gystadleuaeth.

Meddai: "Roeddwn yn byw yng Nghaerdydd ar y pryd ac roedd yn gyffrous iawn i bêl-droed Cymru.

"Mi nes i ddod â cherddorion lleol at ei gilydd i recordio'r sengl cyn symud adref i ogledd Cymru," meddai Iestyn.

"Roedd 'Fat Les' a'u cân Vindaloo yn boblogaidd iawn yn Lloegr.

"Amcan Mint Sôs yw cael llwyddiant tebyg yng Nghymru.

"Rydym wedi sgwennu fersiwn Cymraeg a fersiwn Saesneg ac mae hyd yn oed fersiwn offerynnol i ganu i!" ychwanegodd Iestyn.

Mae Mint Sôs gan Y Sybs yn cynnwys cyfraniadau ecsglwsif gan John Pierce Jones fel y cymeriad chwedlonol Arthur Picton o C'mon Midffild, gan y sylwebydd pêl-droed a chyflwynydd uchel ei barch John Hardy, a gan y talentau unigryw David R Edwards a'r Welsh Whisperer.

Mae'r sengl yn cael ei ryddhau gan y label Tarw Du heddiw. Ewch i tarwdu.com am fanylion pellach

Rhannu |