Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ionawr 2016

Cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn parhau i wella

Mae mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru, ond mae mwy o bobl nag erioed yn cael triniaeth ac mae'r cyfraddau goroesi'n uwch nag erioed, yn ôl adroddiad newydd ynglŷn â gofal canser heddiw.

Mae'r trydydd adroddiad blynyddol ar ganser ar gyfer Cymru gyfan yn nodi'r cynnydd a wnaethpwyd yn erbyn cynllun Llywodraeth Cymru Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser dros y 12 mis diwethaf. Mae hefyd yn nodi meysydd i'w gwella ar gyfer y dyfodol.

Mae'n dangos bod nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ganser yn cynyddu. Yn 2013-14, cafodd 19,000 o bobl ddiagnosis o ganser, sef cynnydd o 11.5% o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.

Er gwaethaf y cynnydd hwn, mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod 28% yn fwy o bobl yn 2014-15 wedi cael eu gweld, wedi cael diagnosis ac wedi dechrau cael triniaeth o fewn y targed amser aros canser, sef 62 diwrnod, o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Dyma rai o’r  llwyddiannau allweddol eraill:

* Mae'r cyfraddau goroesi canser yn gwella yng Nghymru. Mae dros 70% o'r bobl sy'n cael diagnosis o ganser yn goroesi am o leiaf flwyddyn ac mae dros 50% yn goroesi am o leiaf bum mlynedd;

* Mae'r gyfradd marwolaethau ar gyfer pobl o dan 75 oed  sy'n cael diagnosis o ganser wedi gostwng 14% dros y ddeng mlynedd ddiwethaf;

* Mae dros 83% o ferched Cymru sy'n 15 oed neu'n hŷn wedi cael y tair dos o frechlyn y feirws papiloma dynol;

* Gwahoddwyd dros 700,000 o bobl i gael eu sgrinio am ganser y fron, canser y coluddyn neu ganser ceg y groth;

* Dair blynedd yn ôl, roedd cyfnod datblygiad llai na 42% o'r holl ganserau wedi cael ei gofnodi. Eleni, mae cyfnod datblygiad bron i 75% o'r holl ganserau wedi cael ei gofnodi;

Cafwyd cynnydd o 3.8% yn nifer y cyfranogwyr mewn treialon clinigol hyd at 18.2% - sy'n rhagori ar y targed o 15%.

Dros y 12 mis nesaf bydd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn;

* Lleihau nifer y bobl sy'n cael diagnosis drwy lwybr brys, gan ganolbwyntio ar ganserau sy'n anodd i'w diagnosio;

* Parhau i wella perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros;

* Mynd i'r afael â risgiau ehangach ffordd o fyw ar gyfer canser - parhau i ostwng cyfraddau ysmygu a thargedu ymddygiad yfed peryglus;

* Cynyddu'r cyfleoedd i wella nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil canser.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae GIG Cymru wedi gwneud cynnydd rhagorol unwaith eto o ran gwneud diagnosis o ganser a thrin canser. 

"Ond ni allwn fodloni ar hynny oherwydd yng Nghymru, yn 2016 yn unig, bydd bron i 20,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser a bydd tua 8,000 yn marw. Edrychaf ymlaen at weld rhagor o gynnydd yn cael ei wneud yn y frwydr yn erbyn canser."

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall: "Ceir nifer fawr o enghreifftiau ardderchog o wasanaethau canser yn gwella ledled Cymru. Rydym eisoes yn gwybod bod y mwyafrif llethol o bobl  yn cael profiad cadarnhaol o ofal canser, ond rhaid inni roi blaenoriaeth i gyflawni canlyniadau gwell fyth."

Llun: Dr Andrew Goodall

Rhannu |