Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/JonathanEdwards2.jpg)
AS Plaid Cymru yn galw am dorri cyfraniad yswiriant gwladol cyflogwyr i helpu gweithwyr y diwydiant dur
Mae AS Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi cyhuddo llywodraeth y DU o fethu ag amddiffyn y diwydiant dur yng Nghymru o ansefydlogrwydd yn y farchnad, gan alw ar y Llywodraeth i weithredu mesurau fel torri cyfraniad yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd er mwyn ymateb yn erbyn effaith colli swyddi.
Yn dilyn datganiad brys yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Jonathan Edwards AS: “Mae cyhoeddiad heddiw yn ergyd drom i'r gweithwyr ac i gymunedau Port Talbot, Llanwern a Llanelli.
"Mae'r diwydiant dur yn cefnogi miloedd o weithwyr ar draws y rhanbarth, gyda Tata Steel yn cyfrannu tua £3.2 biliwn yn flynyddol i economi Cymru.
“Mae Llywodraeth y DU wedi methu'n llwyr i amddiffyn y diwydiant dur o natur gyfnewidiol y marchnadoedd, er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl tro. Mae dur artiffisial a rhad yn cael ei ddympio bob wythnos o wledydd fel Rwsia a Tsieina, gan foddi marchnad y DU a than-dorri cynhyrchiant dur Cymreig.
“Mae dympio dur o Tseinia yn cyfranu’n sylweddol at yr argyfwng hwn. Ond ychydig iawn mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud i helpu'r diwydiant dur yng Nghymru, gan ddewis yn hytrach i hyrwyddo cais Tsieina am statws economi marchnad a fyddai'n anrheithio ein diwydiant dur ymhellach.
“Dylai sicrhau tegwch yn y farchnad dur fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth y DU. Dylai’r Llywodraeth fynd ar drywydd hyn gyda’r un ymdrech a’r egni y gwelsom pan gafodd y banciau eu hachub yn 2008.
“Dylai Llywodraeth y DU hefyd fod yn pwyso i weithredu mesurau fel torri cyfraniad yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae'r ardal hon yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Ngorllewin Ewrop ac mae'n cynnwys y gweithfeydd dur yn Nhrostre a Phort Talbot. Byddai mesurau fel hyn yn cefnogi yn erbyn effaith colledion swyddi ac yn rhoi hwb i'r ardal.
“Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynigion adeiladol i achub y diwydiant dur yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ar fyrder yr holl opsiynau, gan gynnwys cymryd cyfran dros dro yn Tata Steel i ddiogelu gweithwyr a gwarchod y diwydiant allweddol hwn, asgwrn cefn economi Cymru, yn erbyn amodau economaidd heriol.
"Hyd yn hyn mae Prif Weinidog Cymru wedi dewis anwybyddu y galwadau yma, gan gynnwys galwadau arweinydd ei blaid ei hun, gan ddewis yn hytrach i chwarae gêm wleidyddol rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan.
“Tra bod y Torïaid a Llafur yn gwrthod camu i’r bwlch, bydd Plaid Cymru yn pwyso Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu swyddi gweithwyr y diwydiant dur.”
Wrth ymateb i ddatganiad ar y mater yn Nhŷ’r Arglwyddi, ychwanegodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, “Mae'r economegydd enwog Gerry Holtham ac Adam Price yn gweld y posibilrwydd o greu menter ar y cyd rhwng y sector gyhoeddus a phreifat rhwng Llywodraeth Cymru a Tata.
“Oherwydd ansawdd uchel ac arbenigol y dur sy’n cael ei gynhyrchu yn Shotton, Trostre, Llanwern a Phort Talbot, gallai hyn fod yn bosib.
“Mae yna achosion yn yr Eidal a'r Almaen lle mae buddsoddiad o'r fath gan y Llywodraeth wedi cael ei ganiatáu o dan reoliadau Ewropeaidd.
“Yr wyf yn annog Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â hyn ar y cyd â Llywodraeth Cymru i weld a yw hyn yn ffordd gadarnhaol allan o'r anhawster hwn.”