Mwy o Newyddion


Cyfraith arloesol yn ymwneud â rhentu cartrefi yn cael Cydsyniad Brenhinol
Mae deddfwriaeth arloesol i wella bywydau miliwn o bobl yng Nghymru sy'n rhentu eu cartrefi wedi cael Gydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi'r Frenhines.
Bydd y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn haws ac yn symlach rhentu cartref, drwy ddisodli amryw o ddarnau cymhleth o ddeddfwriaeth gydag un fframwaith cyfreithiol clir.
Dyma un o'r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu pasio. Bydd yn:
• disodli'r mwyafrif o denantiaethau a thrwyddedau sydd ar gael ar hyn o bryd, ac yn eu lle bydd yn darparu dau fath o gontract yn unig - un ar gyfer y sector rhent preifat a'r llall ar gyfer tai cymdeithasol.
• ei gwneud yn rheidrwydd i landlordiaid gyhoeddi datganiad ysgrifenedig o'r contract sy'n amlinellu hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid a'r rheini sy'n rhentu oddi wrthynt yn eglur
• ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gynnal gwaith atgyweirio a sicrhau bod yr eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo. Bydd hefyd yn helpu i amddiffyn pobl sy'n cwyno ynglŷn â chyflwr eiddo rhag cael eu troi allan o'u cartrefi
• helpu i atal sefyllfa sydd ar hyn o bryd yn arwain at ddigartrefedd, pan fo cyd-denant yn gadael tenantiaeth, a thrwy hynny'n dod â'r denantiaeth i ben i bawb arall
• helpu'r rheini sy'n dioddef cam-drin domestig, drwy ei gwneud yn bosibl troi’r sawl sy'n cam-drin allan o'r cartref heb droi’r cyd-denant allan hefyd.
• galluogi landlordiaid i adfeddiannu eiddo mewn sefyllfa lle mae'r tenant wedi'i adael.
Mae Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol pan gaiff y Clerc ei hysbysu am Freinlythyrau o dan Sêl Cymru a lofnodwyd gan Ei Mawrhydi â'i llaw ei hunan i ddynodi Ei Chydsyniad. Mae’r Bil wedyn yn dod yn Ddeddf y Cynulliad.
Rhoddodd Prif Weinidog Cymru, yn rhinwedd ei rôl fel Ceidwad y Sêl Gymreig, y Sêl i'r Breinlythyrau mewn seremoni yng Nghaerdydd ddoe.
Dywedodd Carwyn Jones: "Rwy'n falch iawn o hanes llwyddiannus y Llywodraeth hon o ddefnyddio atebion 'a luniwyd yng Nghymru' i wneud Cymru'n lle gwell i fyw.
"Bydd y Bil hwn yn cyflwyno eglurder a thegwch angenrheidiol i'r sector rhentu, a hefyd yn helpu i amddiffyn rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas."
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog sy'n gyfrifol am Dai: "Bydd y Bil hwn yn gwella bywydau'r miliwn o bobl yng Nghymru sy'n rhentu eu cartrefi.
“Bydd yn sicrhau bod landlordiaid a'r rheini sy'n rhentu eu cartrefi'n ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau o'r dechrau'n deg, a bydd yn amddiffyn pobl rhag arferion gwael rhai landlordiaid.
"Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau ac unigolion sydd wedi ein helpu i ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio â nhw wrth iddi gael ei rhoi ar waith."